TÎM Y SCARLETS I WYNEBU’R QUINS

Natalie Jones

Fe fydd bois ifanc y Scarlets yn teithio i Twickneham Stoop prynhawn Sadwrn 27ain Ionawr i wynebu’r Harlequins yn rownd olaf ond un ymgyrch Cwpan Eingl-Gymreig.

Mae’r prif hyfforddwr Euros Evans wedi enwi tîm o chwaraewyr profiadol a rhai o sêr ifanc y rhanbarth ar gyfer y gêm.

Mae Tom Williams, Jonathan Evans, Emyr Phillips, Simon Gardiner a Jack Condy yn cynnig asgwrn cefn profiadol i’r tîm.

Mae’r cwnolwr Tom Hughes, y maswr Jacob Botica a’r mewnwr Alex Schwarz wedi cyfuno â’r tîm o RGC1404.

Wrth edrych ymlaen at y gêm dywedodd Euros Evans; “Ry’n ni wedi cael wythnos ymarfer da ac ry’n ni’n edrych ymlaen i weld y tîm ar y cae yn y Stoop.

“Fel ry’n ni wedi son o’r blaen mae’r gystadleuaeth yma’n rhoi cyfle arbennig i chwaraewyr ifanc y rhanbarth i gamu i’r lefel nesaf a dangos i’r hyfforddwyr rhanbarthol y talent sydd gyda nhw. Fe fyddwn ni’n gobeithio sicrhau diweddglo cadarn i’r ymgyrch dros y pythefnos nesaf.”

Tîm y Scarlets i wynebu’r Harlequins ar ddydd Sadwrn 27ain Ionawr, cic gyntaf 3YP;

15 Tom Williams, 14 Tom Rogers, 13 Corey Baldwin, 12 Tom Hughes, 11 Ryan Conbeer, 10 Jacob Botica, 9 Jonathan Evans, 1 Rhys Fawcett, 2 Emyr Phillips, 3 Simon Gardiner, 4 Josh Helps, 5 Chris Long, 6 Stuart Worrall, 7 Dan Davis, 8 Jack Condy ©

Eilyddion; Taylor Davies, Phil Price, Javan Sebastian, Bryce Morgan, Lloyd Pike, Alex Schwarz, Jack Maynard, Morgan Griffiths

Mae tocynnau Scarlets v Sale Sharks, ym Mharc y Scarlets ar ddydd Gwener 2il Chwefror, ar gael o eticketing.co.uk/scarletsrugby