Anafiadau Evans a Macleod yn well na’r disgwyl

Menna Isaac Newyddion, Newyddion Chwaraewyr

Fe fydd y Scarlets yn coresawu arweinwyr Adran B Guinness PRO14 i Barc y Scarlets prynhawn Sadwrn gyda’r tîm cartref yn gobeithio parhau â’r momentwm ar ôl y fuddugoliaeth dros Leinster.

Mae Benetton Rugby wedi sicrhau dwy fuddugoliaeht o ddwy gyda’r Scarlets wedi colli un ac ennill un hyd yn hyn.

Mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi rhoi’r newyddion diweddaraf am anafiadau cyn gêm fawr y penwythnos gyda’r newyddion llawer gwell na’r disgwyl i’r cefnogwyr.

Wrth siarad yn gynharach y bore yma dywedodd Pivac;” Mae’n newyddion da, mae Rob mewn ychydig o boen a Josh (Macleod) yr un peth. Does dim angen llawdriniaeth ar un ohonyn nhw sy’n bositif. Fe fyddwn ni’n ail asesu’r ddau wythnos nesaf. Fe fydd yn rhaid i ni aros wythnos arall cyn cael gwell syniad o’u dyddiadau dychwelyd.

“Fe fyddwn ni’n gobeithio gallu gweld Rob yn ôl o fewn pythefnos i dair wythnos. Mae Johnny (McNicholl) a Jake (Ball) yn ymarfer yn llawn heddiw hefyd.

“Dy’n ni ddim yn bwriadu rhoi hast ar Jon (Davies), ry’n ni eisiau ei weld e 100% yn iawn. Mae yna lot o rygbi mawr i ddod ac ry’n ni’n gymharol iawn yn y safle yna ar hyn o bryd.

“Gyda’r ffordd y mae’r tymor wedi mynd hyd yn hyn ry’n ni’n ddigon hapus gyda’r canlyniadau.

“Fe wnaeth Wyn Jones ymarfer ddoe ac os daw e trwy’r sgryms heddiw fe fydd e far gael ar gyfer y penwythnos. Mae Uzair (Cassiem) yn rhedeg ac yn edrych yn dda i ddychwelyd yn fuan.

“Mae Dylan (Evans) wedi dioddef bwmp i’w ysgwydd, oherwydd y llwyth sydd o’n blaenau ry’n ni’n gofalu ar ei ôl. Gyda’r potnesial o golli dau prop penrhydd yn ystod yr hydref mae’n rhaid i ni fod yn synhwyrol.”

Fe fydd y Scarlets yn croesawu Benetton i Barc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 8fed Medi, cic gyntaf 19:35.

Mae tocynnau ar gael nawr o tickets.scarlets.wales