Chwilio am anrheg ar gyfer yr hosan Nadolig? Beth am archebu lle ar un o’n Gwersylloedd Rygbi Hanner Tymor Chwefror a chael taleb i’w rhoi yn yr hosan?
Fe fydd y Scarlets yn cynnal gwersyll dau ddiwrnod ym Mharc y Scarlets (bechgyn a marched 6-11) yn ogystal â Gwersyll i Ferched yn unig (6-15 mlwydd oed).
Mae’r gwersylloedd yn rhoi cyfle i chwaraewyr rygbi ifanc i ddatblygu eu sgiliau gyda Hyfforddwyr Sgiliau’r Scarlets ynghyd â rhai o sêr y rhanbarth.
Fe fydd y plant yn derbyn crys-t Scarlets ond hefyd yn derbyn tocyn i gêm Scarlets v Ulster yn y Guinness PRO14.
Pris gwersyll dau ddiwrnod yw £40 neu £25 os ydych ond yn gallu mynychu un diwrnod. Pris y Gwersyll Merched yn unig yw £15.
Fe fydd eich plentyn yn derbyn y canlynol;
- Crys-t y Scarlets
- Tocyn am ddim i gêm Scarlets v Ulster yn y Guinness PRO14
- Cyfle i gyfarfod rhai o’r chwaraewyr
Dyddiadau Gwersylloedd Hanner Tymor y Scarlets;
- Llun & Mawrth 19eg & 20fed Chwefror
- Iau 22ain Chwefror
I archebu lle neu i sicrhau eich taleb cyn y Nadolig cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39.