Barclay yn derbyn llawdriniaeth

Kieran Lewis Newyddion

Fe dderbyniodd John Barclay, sydd yn ymuno â Chaeredin dros yr haf, llawdriniaeth ddoe, Llun 21ain Mai.

Dioddefodd Barclay anaf i tendon yr Achilles yn rownd gyn derfynol Guinness PRO14 nos Wener, yn erbyn ei hen glwb Glasgow, a bu’n rhaid iddo dderbyn llawdriniaeth er mwyn trwsio’r difrod.

Ry’n ni wedi gwneud trefniadau, ar y cyd â Rygbi’r Alban a Chaeredin, bod John yn dechrau’r daith yn ôl i ffitrwydd yng Nghaeredin.