Beirne yn ennill cais y tymor Cwpan Pencampwyr Ewrop!

Kieran Lewis Newyddion

Ar ôl 3,000 o bleidleisiau cyhoeddus a barn arbenigol Brian O’Driscoll, mae wedi ei gadarnhau bod cais Tadhg Beirne yn erbyn Caerfaddon wedi ei enwi’n gais y tymor 2018!

Fe lwyddodd i cais i drechu ceisiau gan Tommy Seymour (Glasgow), Exeter Chiefs a Munster.

Ar ôl i Rhys Patchell ddal y gic uchel, aeth y bêl yn llydan trwy Hadleigh Parkes a Scott Williams cyn i gyfres o ddadlwytho arbennig rhoi’r cyfle i Beirne ochrgamu Anthony Watson a plymio am y linell!

Dywedodd Brian O’Driscoll: “Roedd hwn yn gais arbennig gan y tîm, fe welwyd gwaith dadlwytho perffaith, onglau clyfar, sgiliau trafod y bêl o’r radd flaenaf, cyn i’r clo ochrgamu Watson mewn symudiad y byddai unrhyw olwr wedi bod yn browd ohono!”

Dyma’r restr fer o geisiau;

Cofiwch y bydd grwpiau Cwpan Pencampwyr Ewrop tymor nesaf yn cael eu dewis ar ddydd Mercher 20fed Mehefin ac fe fydd yn fyw ar sianeli EPCR.