Boyde i arwain y Scarlets ym Murrayfield

Menna Isaac Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn teithio i Murrayfield ar gyfer wythfed rownd y Guinness PRO14 i wynebu Caeredin ar nos Wener 2il Tachwedd.

Y Scarlets oedd yn fuddugol yn y pendraw mewn gêm llawn cyffro â deg cais yn Ne Affrica penwythnos diwethaf yn erbyn y Southern Kings.

Fe fydd y talent lleol Will Boyde, 23, yn arwain y Scarlets i’r cae ym Murrayfield gyda’r canolwr Steff Hughes, a arweiniodd y tîm penwythnos diwethaf, yn absennol ar ôl anafu ei bigwrn mewn sesiwn ymarfer dydd Mercher.

Mewn newyddion positif i’r prif hyfforddwr Wayne Pivac mae’n croesawu’r canolwr Kieron Fonotia yn ôl o’i waharddiad yn ogystal a Blade Thomson, a gollodd gêm y penwythnos diwethaf yn dilyn genedigaeth ei ail bentyn.

Fe fydd Boyde a Thomson yn cymryd eu lle yn safle’r wythwr a’r blaenasgellwr dywyll gyda Josh Macleod yn ymuno â nhw yn y reng ôl. Parhau yn yr ail reng y mae Steve Cummins a David Bulbring gyda Ryan Elias yn dychwelyd o garfan Cymru i gymryd ei le yn y reng flaen ochr yn ochr â Phil Price a Werner Kruger.

Ymhlith yr olwyr mae Johnny McNicholl yn symud i safle’r cefnwr gyda Morgan Williams yn dod i mewn i’r asgell ynghyd â un o sgorwyr ceisiau wythnos diwethaf Ioan Nicholas.

Daw Kieron Fonotia yn ôl i’r canol gan bartneri Paul Asquith tra bod Dan Jones a Sam Hidalgo-Clyne yn parhau a’u partneriaeth hwy yn yr hanneri.

Colli o 34-16 yn erbyn Zebre wnaeth Caeredin penwythnos diwethaf ond mae Pivac yn ymwybodol y bydd angen i’w dîm fod yn barod am ymateb gan dîm Richard Cockerill nos Wener.

Dywedodd; “Byddwn ni’n disgwyl ymateb fel wnaethon ni pan aethon ni i Gaerlyr. Fe fyddwn ni’n disgwyl gwell perffromiad.

“Fe gaethon ni’n cosbi tymor diwethaf ac mae hynny’n fyw iawn yn ein meddyliau. Ry’n ni eisiau mynd yno o sicrhau gwell perfformiad.

“Mae’n gêm sy’n holl bwysig i’r ddau dîm. Ry’n ni’n dau eisiau cyrraedd y gemau ail gyfle eto. Mae yna wyth pwynt y nein gwahanu ar hyn o bryd ac fe fyddwn ni bendant yn ceisio ymestyn hwnnw.”

Tîm y Scarlets i wynebu Caeredin yn BT Murrayfield nos Wener 2il Tachwedd, cic gyntaf 19:35;

15 Johnny McNicholl, 14 Ioan Nicholas, 13 Kieron Fonotia, 12 Paul Asquith, 11 Morgan Williams, 10 Dan Jones, 9 Sam Hidalgo-Clyne, 1 Phil Price, 2 Ryan Elias, 3 Werner Kruger, 4 Steve Cummins, 5 David Bulbring, 6 Blade Thomson, 7 Josh Macleod, 8 Will Boyde ©

Eilyddion: 16 Dafydd Hughes, 17 Dylan Evans, 18 Simon Gardiner, 19 Tom Price, 20 Ed Kennedy, 21 Kieran Hardy, 22 Clayton Blommetjies, 23 Uzair Cassiem