CADARNHAU DYDDIAD GÊM ROWND YR WYTH OLAF CWPAN PENCAMPWYR!

Natalie Jones

Mae Gwener y Groglith yn addo bod yn ddydd Gwener Gwych ym Mharc y Scarlets pan fydd y rhanbarth yn croesawu La Rochelle ar gyfer rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop!

Fe fydd y Scarlets yn wynebu La Rochelle yng ngêm rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop ar benwythnos y Pasg gyda’r gic gyntaf am 5.30YH ym Mharc y Scarlets.

Fe fydd gêm rownd wyth olaf Ewropeaidd cyntaf y Parc yn sicrhau torf fwyaf y stadiwm hefyd gyda seddau ychwanegol yn cael eu hychwanegu i fynd a’r nifer i 15,000.

Tra bod y chwaraewyr yn paratoi ar gyfer y perfformiad ar y cae mae’r tîm oddi ar y cae yn paratoi achlysur arbennig ar gyfer cefnogwyr, partneriaid, noddwyr ac ymwelwyr.

Fe fydd dalwyr tocyn tymor yn gallu prynu eu sedd / tocyn sefyll presennol o 9YB fory, Gwener 26ain Ionawr tan ddydd Gwener 9fed Chwefror gyda thocynnau’n mynd ar werthiant cyhoeddus tan Sadwrn 10fed Chwefror.

Am fanylion tocynnau cliciwch yma

Scarlets v La Rochelle, Rownd Wyth Cwpan Pencampwyr Ewrop, Gwener 30ain Mawrth, cic gyntaf 5.30YH.