Cadarnhau dyddiad rownd cyn derfynol Cwpan Pencampwyr

Kieran Lewis Newyddion

Mae EPCR wedi cadarnhau dyddiad ac amser cic gyntaf rownd cyn derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn Leinster ar ddydd Sadwrn 21ain Ebrill, cic gyntaf 15:30.

Gyda channoedd o gefnogwyr yn gobeithio gwneud y siwrne i Ddulyn ar gyfer y gêm mae’r Scarlets yn falch iawn cadarnhau’r trip cefnogwyr fel a ganlyn;

    • Ymadael Parc y Scarlets ar ddydd Gwener 20fed Ebrill, tua 10:00
  • Dychwelyd i Barc y Scarlets nos Su
  • Trafnidiaeth yn cynnwys y fferi a thrafnidiaeth i’r gêm ac yn ôl
  • Llety gwely a brecwast dwy noson
  • Tocyn i’r gêm

Pris y pen £249

Am wybodaeth pellach ebostiwch [email protected]

Manylion tocynnau i ddilyn cyn bo hir.