Fe fydd Scarlets dan 18 yn teithio i’r brifddinas heno i wynebu Gleision (De) ym mhencampwriaeth Graddau Oed URC.
Fe fydd y Scarlets yn chwarae eu hwythfed gêm gyda’r genhedlaeth nesaf yn gobeithio sicrhau eu hwythfed buddugoliaeth.
Mae’r saith buddugoliaeth hyd yn hyn wedi gweld y tîm ifanc yn sicrhau buddugoliaethau pwynt bonws ac maent ymhell ar frig y tabl.
Yn dilyn gêm heno dwy gêm yn unig bydd yn weddill gyda’r tîm ifanc, yn gyntaf yn erbyn y Gweilch yn Llandarcy wythnos nesaf ac yna’r gêm olaf yn erbyn Gleision (Gogledd) ym Mharc y Scarlets ar nos Fawrth 6ed Chwefror.
Scarlets dan 18 i wynebu Gleision (De) ym Mharc yr Arfau, Mawrth 23ain Ionawr cic gyntaf 7.15YH;
15 Dean James, 14 Harri Dole, 13 Joe Roberts, 12 Osian Knott, 11 Alex Varney, 10 Llew Smith, 9 Dafydd Land, 1 Callum Williams, 2 Llew Phillips-Taylor, 3 Adam Thomas, 4 Griff Evans, 5 Jac Price, 6 Harry Breeze, 7 Gethin Davies ©, 8 Sam Williams
Eilyddion: Rhodri King, Keelan Jewell, Iwan Twigg, Owen Jones, Iestyn Reesm Dai Jones, Bradley Roderick, Liam Cox