Mae’r Scarlets wedi lansio cit oddi cartref 2018-19 heddiw fel rhan o ddiwrnod hwylus i’r teulu oll ar bromenâd Aberystwyth.
Lansiwyd y cit glas, gwyn ac aur llachar yn Aberystwyth wrth i’r rhanbarth edrych i gryfhau safle’r rhanbarth yng Ngheredigion gan annog cyfranogiad nid yn unig mewn rygbi ond chwaraeon yn gyffredinol a gweithgareddau cymunedol.
Mae’r Scarlets wedi lansio strategaeth Tair Sir, Tair Blynedd yr haf yma, gan ganolbwyntio ar gryfhau partnerhiaethau ar draws y rhanbarth fesul sir.
Ffocws Blwyddyn Un yw Ceredigion gyda phrosiectau masnachol a chymunedol yn cael eu darparu ar draws y sir. Fe fydd Blwyddyn Dau yn ffocysu ar Sir Benfro cyn dychwelyd i Sir Gâr ym Mlwyddyn Tri.
Mae lliw cit oddi cartref 2018-19 wedi ei selio ar liwiau arfbais Ceredigion, traethau euraidd a’r moroedd glas.
Yn amlwg i’w gweld ar ochr chwith y crys y mae arbeisiau Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gâr. Ar flaen y crys y mae patrwm anarferol sy’n cynnwys elfennau o arfbais bob sir tra fod yna dôn gref ar y cefn i ddynodi cysylltiad y sir, a’r rhanbarth, gyda’r môr a’r arfordir.
Elfennau’r patrwm;
CEREDIGION
Llew euraidd: Arfbais Gwaithfoed, tywysog canoloesol o Geredigion
Ysgadan: Diwydiant bysgota
Ysgub gwenith: Diwydiant amaethyddol
Rhosyn: Nawddsant Cymru, oedd â chysyltiadau agos â’r sir
SIR BENFRO
Eryr: Bywyd gwyllt, cestyll a’r arfordir garw
Draig: Treftadaeth ddeuol y sir
SIR GÂR
Telyn: Traddodiadau barddonol a cherddorol Cymreig
Morfarch: Y môr, gofal a sefydlogrwydd
Mae’r cit ar gael i’w flaenarchebu nawr.