Chwaraewr rhyngwladol i ymuno â’r Scarlets

Kieran Lewis Newyddion

Mae’r Scarlets yn falch iawn cadarnhau y bydd yr wythwr rhyngwladol o Dde Affrica Uzair Cassiem yn ymuno â’r rhanbarth ar gyfer tymor 2018-19.

Mae’r chwaraewr 28 mlwydd oed wedi arwyddo cytundeb gyda’r rhanbarth ac fe fydd yn ymuno o’r Cheetahs ar gyfer y tymor newydd.

Dechreuodd Cassiem, sydd wedi ennill wyth cap rhyngwladol, ei yrfa rygbi gyda’r Golden Lions yn 2011.

Cassiem yw’r trydydd enw newydd i’w hychwanegu i’r garfan ar gyfer y tymor newydd ynghyd â Blade Thomson o’r Hurricanes a Kieron Fonotia o’r Gweilch.

Mae’r chwaraewyr rhyngwladol Aaron Shingler, Ryan Elias, James Davies, Rhys Patchell, Wyn Jones, Gareth Davies, Jake Ball a Jonathan Davies wedi arwyddo cytundebau newydd hefyd ynghyd â Dylan Evans, Jonathan Evans a Lewis Rawlins.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Wayne Pivac; “Mae Uzair yn chwaraewr rhynwgladol sydd â’r sgiliau i chwarae ein steil ni o chwarae. Mae e’n chwaraewr deinamig sy’n hoffi cario’r bêl ac sydd â’r gallu i ddadlwytho ac mae e’n unigolyn corfforol.

“Mae e’n chwarae ar y lefel uchaf ac fe wynebodd Cymru yn ystpd Cyfres yr Hydref yn safle’r wythwr. Mae ganddo’r gallu i chwarae ar draws y reng ôl yn ogystal a wyth.”

Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol y Scarlets; “Mae Uzair wedi dangos ei ddoniau yn y GUINNESS PRO14, Super Rugby ac ar y llwyfan rhyngwladol. Pan wnaethon ni gyfarfod ag ef caethom ein taro gyda’i awydd i wynebu her rygbi newydd a brwydro am dlysau.”

Ychwanegodd Uzair Cassiem: “Mae’r Scarlets yn adnabyddus ar draws y byd ac yn chwarae rygbi da ar hyn o bryd. Roedd hi’n glir gweld uchelgeisiau’r clwb wrth gyfarfod Jon a Wayne ac mae’r amgylchedd yn y Scarlets yn union yr hyn yr wyf yn chwilio amdano.

“Fe fyddaf yn rhoi o fy ngorau i’r Cheetahs am weddill y tymor tra’n edrych ymlaen i bennod nesaf fy ngyrfa yn Ne Cymru.”

Gwnewch yn siwr eich bod chi #ynypac gyda Uzair Cassiem; mae Tocynnau Tymor 2018-19 ar gael nawr. Cliciwch yma am wybodaeth pellach neu cliciwch yma i brynu eich tocyn tymor!