Fe fydd Parc y Scarlets yn llwyfannu ei gêm ail gyfle Ewropeaidd cyntaf erioed ar ddydd Gwener 30ain Mawrth wrth i’r Scarlets baraoti i wynebu La Rochelle yn rownd wyth olaf yntaf y clwb ers degawd a mwy.
Gyda thocynnau ar gyfer y gêm wedi gwerthu mas yn barod ry’n ni wedi dod ynghyd â’n partneriaid Interspot a Thomas Cook Sport i gynnig penwythnos bythgofiadwy i chi!!
Fe fydd yr enillydd lwcus, Duncan Davies, yn ennill;
- Pâr o docynnau i Scarlets v La Rochelle
- Mynediad i’r babell lletygarwch moethus, gan gynnwys pryd o fwyd, sesiwn holi ac ateb gyda chwaraewyr y Scarlets a mynediad i’r lleoliad ar ôl y gêm
- Dwy noson yn y Village Hotel
- Taleb gwerth £100 i wario ar Intersport ar y we
- Taith o’r stadiwm cyn cic gyntaf Scarlets v La Rochelle
- Taleb bwyd yn y gwesty
- Dau wy Pasg moethus
.
Diolch i bawb a gystadlodd, fe wnaethon ni fwynhau darllen eich straeon chi gyd!