Cytundeb newydd i Evans

Natalie Jones Newyddion

Mae’r Scarlets yn falch iawn cadarnhau bod y mewnwr Jonathan Evans wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets.

Ymunodd y chwaraewr 25 mlwydd oed â’r rhanbarth cyn tymor 2016-17 o Gaerfaddon. Yn ei dymor cyntaf chwaraeodd 24 gêm i’r Scarlets gan gynnwys ymddangosiadau oddi ar y fainc yn y rownd cyn derfynol a rownd terfynol Guinness PRO12 yn Nulyn.

Yn ei dymor cyntaf chwaraeodd 24 gêm i’r Scarlets gan gynnwys ymddangosiadau oddi ar y fainc yn y rownd cyn derfynol a rownd terfynol Guinness PRO12 yn Nulyn.

Sgoriodd bump cais yn ei dymor cyntaf i’r rhanbarth ac mae wedi parhau â’i safon yn 2017-18 gan chwarae deg gêm hyd yn hyn.

Mae Evans ymhlith grwp cryf o Scarlets sydd wedi adnewyddu eu cytundebau wrth i’r prif hyfforddwr Wayne Pivac obeithio ail adrodd llwyddiant y tymor diwethaf.

Mae’r rhanbarth ar frig Adran B yn y Guinness PRO14 ar hyn o bryd ar ôl ennill un-ar-ddeg gêm allan o dri-ar-ddeg ac maent yn dal i obeithio sicrhau lle yn rownd cyn derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Ymhlith y chwaraewyr eraill sydd wedi arwyddo cytundebau newydd y mae James Davies, Dylan Evans, Lewis Rawlins, yn ogystal â’r chwaraewyr rhyngwladol Aaron Shingler, Ryan Elias, Rhys Patchell, Wyn Jones a Kieron Fonotia ar gyfer tymor nesaf. Mae’r hyfforddwyr Wayne Pivac, Stephen Jones a Byron Hayward wedi arwyddo cytundebau newydd hefyd.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Wayne Pivac; “Mae Jonny wedi chwarae lot o rygbi ers ymuno â ni, mae e wedi chwarae’n dda ac mae e’n fygythiad ymosodol.

“Roedd e’n bwysig cadw Jonny ac ry’n ni’n hapus ei fod wedi ail arwyddo. Mae safle’r mewnwyr yn gystadleuol ac mae hynny’n holl bwysig i ddyfnder y garfan.”

Ychwanegodd Jonathan Evans; “Rwy’n falch iawn fy mod yn aros gyda’r Scarlets. Rwyf wedi mwynhau fy amser gyda’r rhanbarth ac roedd e’n brofiad arbennig cael bod yn rhan o’r gemau ar ddiwedd tymor diwethaf.

“Rwy’n mwynhau’r steil o rygbi ry’n ni’n chwarae ac mae’n gyffrous cael bod yn y rasa r gyfer rowndiau terfynol Guinness PRO14 a Chwpan Pencampwyr Ewrop.

“Rwy’n ddiolchgar i Wayne a’r hyfforddwyr am y cyfle ac rwy’n edrych ymlaen at ddiwedd cyffrous arall i’r tymor.”