CYTUNDEB NEWYDD I SHINGLER

Natalie Jones Newyddion

Mae’r Scarlets yn falch iawn o gadarnhau bod y reng ôl Aaron Shingler wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets.

Mae Shingler, 30, wedi bod yn gonglfaen o garfan y Scarlets am ddegawd ac mae wedi chwarae 170 o gemau i’r rhanbarth gan sgori 19 cais.

Cafodd y cyn gricedwr ei alw yn ôl i garfan Cymru ar gyfer y daith i Seland Newydd a Samoa dros yr haf ar ôl tair mlynedd o seibiant o’r sîn rhyngwladol.

Fe ddechreuodd y blanasgellwr yn y gemau yn erbyn Awstralia, Seland Newydd a De Affrica yng Nghyfres yr Hydref.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac; “Mae Aaron yn cynnig llawer i’r garfan; mae e’n rhoi o’i orau bob amser ac mae e’n bleser i’w hyfforddi.

“Mae e wedi gweithio’n galed iawn ac mae e wedi datblygu if od yn arweinydd dros y flwyddyn i ddeunaw mis diwethaf, yn enwedig pan oedd y chwaraewyr rhyngwladol i ffwrdd tymor diwethaf. Roedd e’n rhan mawr o’n llwyddiant yn y PRO12 ac mae ei waith caled wedi ennill ei le yn ôl yng ngharfan Cymru.”

Dywedodd Aaron Shingler; “Rwy’n hapus iawn fy mod wedi arwyddo cytundeb hir-dymor gyda’r Scarlets. Rwyf wedi bod yma am ddeng mlynedd ac rwy’n mwynhau fy rygbi yma.

“Roedd e’n brofiad arbennig i ennill y bencampwriaeth ond ry’n ni eisiau parhau i adeiladu a pharhau i ddatblygu gan obeithio ennill mwy o dlysau.”