Dau Scarlet ar restr Chwaraewr Ewropeaidd EPCR y Flwyddyn!

Kieran Lewis Newyddion

Mae chwaraewyr o wyth clwb gwahanol a’r tri cystadleuaeth Ewropeaidd ymhlith y pymtheg chwaraewr sydd wedi eu henwi ar restr Chwaraewr Ewropeaidd EPCR y Flwyddyn 2018, a gyflwynir gan Turkish Airlines, ac mae dau ohonyn nhw’n Scarlets!

Mae’r clo Tadhg Beirne a’r mewnwr Gareth Davies wedi eu cynnwys ar y restr sy’n llawn sêr sydd wedi ei ddewis gan panel o arbenigwyr rygbi.

Mae’r bleidlais ar gyfer y wobr ar agor nawr ar ChampionsCupRugby.com ac fe fydd cefnogwyr yn cael cyfle i ennill dau docyn VIP i gemau terfynal Cwpan Her a Chwpan Pencampwyr yn Bilbao ym mis Mai yn ogystal ag un noson mewn gwesty.
 
Fe fydd y restr yn cael ei leihau i bump chwaraewr ym mis Ebrill yn dilyn rowndiau cyn derfynol y Cwpan Pencampwyr trwy bleidlais y cyhoedd a phenderfyniad y panel.
 
Fe fydd y bleidlais yn ail agora r ôl hynny ac fe fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar ôl Rownd Derfynol y Cwpan Pencampwyr ar 12 Mai yn Bilbao.
 
Restr Chwaraewr Ewropeaidd EPCR 2018
 
Tadhg Beirne (Scarlets)
Levani Botia (La Rochelle)
Gareth Davies (Scarlets)
Scott Fardy (Leinster Rugby)
Owen Farrell (Saracens)
Tadhg Furlong (Leinster Rugby)
Conor Murray (Munster Rugby)
Isa Nacewa (Leinster Rugby)
Leone Nakarawa (Racing 92)
Morgan Parra (ASM Clermont Auvergne)
Dany Priso (La Rochelle)
Alivereti Raka (ASM Clermont Auvergne)
Jonathan Sexton (Leinster Rugby)
Josua Tuisova (RC Toulon)
Victor Vito (La Rochelle)

 
Cliciwch YMA i weld fideo o’r chwaraewyr sydd ar y rest

 
Y Panel: Stuart Barnes (Sky Sports/The Sunday Times), Chris Jones (BBC Radio 5 Live), Matthieu Lartot (France Télévisions), Emmanuel Massicard (Midi Olympique), Brian O’Driscoll (BT Sport), Dimitri Yachvili (beIN Sports).
 
Enillwyr – 2017: Owen Farrell (Saracens); 2016: Maro Itoje (Saracens); 2015: Nick Abendanon (ASM Clermont Auvergne); 2014: Steffon Armitage (RC Toulon); 2013: Jonny Wilkinson (RC Toulon); 2012: Rob Kearney (Leinster Rugby); 2011: Sean O’Brien (Leinster Rugby); 2010: Ronan O’Gara (Munster Rugby)