DAVIES I ADAEL Y RHANBARTH AR DDIWEDD Y TYMOR

Natalie Jones Newyddion

Mae’r Scarlets yn gallu cadarnhau y bydd y mewnwr Aled Davies yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor i ymuno â’r Gweilch.

Datblygodd Davies, 25, trwy Academi’r Scarlets ar ôl cynrychioli’r rhanbarth yn y timau graddau oed.

Chwaraeodd Davies ei gêm gystadleuol cyntaf i’r rhanbarth yn erbyn Caerlyr yn y Cwpan Eingl-Gymreig ym mis Hydref 2011 ac mae wedi chwarae 114 gêm hyd yn hyn, gan sgori wyth cais.

Er gwaethaf cael ei alw i garfan Cymru ar gyfer Cyfres Hydref 2016 a phencampwriaeth Chwe Gwlad 2017 bu’n rhaid iddo aros tan daith yr haf cyn ennill ei gap cyntaf gan wynebu Tonga a Samoa.

Chwaraeodd ei gêm rhynwgladol cartref yn Stadiwm Principality ar brynhawn Sadwrn 11eg Tachwedd yn erbyn Awstralia. Fe ddaeth oddi ar y fainc yn erbyn Georgia ac fe ddechreuodd yn erbyn De Affrica dros y penwythnos.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol Rygbi’r Scarlets; “Hoffwn ddiolch i Aled am ei wasanaeth i’r Scarlets dros y ddegawd diwethaf. Mae wedi bod yn aelod pwysig o’r garfan dros y blynyddoedd ac mae wedi chwarae rhan mewn gemau pwysig.

“Ry’n ni’n deall ac yn parchu ei benderfyniadau am eisiau gadael ac ry’n ni’n dymuno pob llwyddiant iddo.”

Dywedodd Aled Davies; “Roedd e’n benderfyniad anodd iawn i mi ei wneud. Hwn yw tîm fy mhlentyndod ac rwy’n falch iawn bob tro rwy’n chwarae i’r Scarlets. Rwy’n teimlo, fodd bynnag, bod yr amser yn iawn i mi barhau i dddatblygu fy ngêm yn rhywle arall.

“Rwyf wedi cael naw mlynedd arbennig gyda’r Scarlets ac fe fyddaf yn gadael wedi gwneud lot o ffrindiau da a gyda lot o atgofion melys. Fe fydd fy ffocws ar gynorthwyo’r Scarlets i orffen y tymor ar nodyn uchel gan ennill tlws arall hefyd gobeithio.”