Davies i weld arbenigwr

Menna Isaac Newyddion, Newyddion Chwaraewyr

Gyda’r Scarlets yn paratoi i wynebu Connacht ar y penwythnos, yn y Sportsground Galway, mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi rhannu’r newyddion diweddaraf o’r ystafell feddygol.

Fe adawodd y blaenasgellwr James Davies y cae yn hanner cyntaf y gêm yn erbyn Benetton penwythnos diwethaf.

Dywedodd Pivac; “Dioddefodd James anaf i’w benglin ac fe fydd e’n gweld arbenigwr. Mae wedi cael sgan ac fe fyddwn ni’n gwybod mwy ar ôl i arbenigwr adolygu’r canlyniadau.”

Dioddefodd y prop penrhydd Rob Evans a’r blaenasgellwr Josh Macleod anafiadau i’r ysgwydd yn y gêm yn erbyn leinster. Aeth Pivac ymlaen i ddweud; “Mae Rob a Josh yn gwneud yn dda. Roedd y ddau yna yn anafiadau a allai fod wedi bod llawer yn waeth. Maent ychydig wythnosau i ffwrdd yn hytrach na rhywbeth hirach.

“Fe fydd Uzair Cassiem ar gael penwythnos yma. Mae’r tîm meddygol wedi edrych ar ôl e’n dda. Fe fydd ffitrwydd gêm yn bwysig,dyna’r peth anoddaf gydag anaf ar ddechrau’r tymor.”

Yn olaf fe soniodd Pivac am Jonathan Davies; “Mae Jon yn dal i fod ar y trywydd cywir ar gyfer wythnos nesaf. Ry’n ni’n gobeithio cael wythnos llawn o hyfforddi oddi wrtho tymor nesaf, os fydd hynny’n iawn fe fydd e’n barod.”

Fe fydd y Scarlets yn teithio i Galway i wynebu Connacht prynhawn Sadwrn 22ain Medi, cic gyntaf 17:15.