Davies yn dychwelyd ar gyfer gêm nos Sadwrn

Menna Isaac Newyddion

Fe fydd y canolwr Jonathan Davies yn dychwelyd ar gyfer gêm y Scarlets nos Sadwrn, 29ain Medi, yn erbyn Isuzu Southern Kings ym Mharc y Scarlets, cic gyntaf 18:30, am ei gêm gystadleuol gyntaf y tymor hwn.

Bu’n rhaid i Davies dynnu allan o’r ail rownd yn erbyn Leinster ar ôl tynnu llinyn y gâr yn y sesiwn cynhesu cyn y gêm ac mae’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r cae nos Sadwrn.

Fe fydd y Llew yn arwain y Scarlets gyda chapten y clwb Ken Owens yn cael ei orffwyso y penwythnos yma yn ogytsal â’r bois rhyngwladol Samson Lee, Leigh Halfpenny, hadleigh Parkes a Gareth Davies.

Mae reng flaen rhyngwladol, ar ei newydd wedd, yn dechrau gyda Wyn Jones, Ryan Elias a Werner Kruger yn dechrau eu gêm gyntaf gyda’i gilydd y tymor hwn tra bod David Bulbring yn do di fewn i’r ail reng ochr yn ochr â Jake Ball. Y blaenasgellwr agored Dan Davis a fydd yn cymryd ei le yn y reng ôl yn gyda Ed Kennedy a Blade Thomson.

Mae’r mewnwr Sam Hidalgo-Clyne yn dechrau ei ail gêm o’r tymor wrth iddo ddod mewn i’r hanner gyda Rhys Patchell.

Fe fydd Ioan Nicholas a Paul Asquith yn dechrau eu gemau cyntaf y tymor hwn wrth iddynt ddod mewn i’r linell gefn i gefnogi Johnny McNicholl, Clayton Blommetjies a Davies.

Mae’r chwaraewr newydd Marc Jones wedi ei enwi ar y fainc ac fe fydd e’n gobeithio chwarae ei gêm gyntaf i’r rhanbarth ar ôl ymuno o Sale Sharks.

Fe fydd Phil Price, Simon Gardiner, Tom Price a Uzair Cassiem yn eilyddio’r pac gyda Kieran Hardy, Angus O’Brien a Steff Evans yn cefnogi’r linell gefn.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd Wayne Pivac; “Fe fyddwn ni’n gwneud ein gorau i sicrhau perfformiad gwell y penwythnos yma. Llwyddodd y Kings i drechu Glasgow penwythnos diwethaf ac maent wedi rhoi pawb ar flaenau’u traed.

“Does dim esgusodion. Mae’n rhaid i ni fynd allan a pherfformio. Ry’n ni’n disgwyl gweld gwell perfformiad.”

.

.

Tîm y Sarlets i wynebu Southern Kings ym Mharc y Scarlets, Sadwrn 29ain Medi, cic gyntaf 18:30;

15 Clayton Blommetjies, 14 Johnny McNicholl, 13 Jonathan Davies, 12 Paul Asquith, 11 Ioan Nicholas, 10 Rhys Patchell, 9 Sam Hidalgo-Clyne, 1 Wyn Jones, 2 Ryan Elias, 3 Werner Kruger, 4 Jake Ball, 5 David Bulbring, 6 Ed Kennedy, 7 Dan Davis, 8 Blade Thomson

Eilyddion; 16 Marc Jones, 17 Phil Price, 18 Simon Gardiner, 19 Tom Price, 20 Uzair Cassiem, 21 Kieran Hardy, 22 Angus O’Brien, 23 Steff Evans

Mae tocynnau ar gael nawr, cliciwch yma, cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39 – ar agor tan 19:00 heno ac o 09:00 fory.

Gorffwyso; Leigh Halfpenny, Tom Prydie, Kieron Fonotia, Hadleigh Parkes, Gareth Davies, Ken Owens, Samson Lee

Wedi’u anafu; Steve Cummins, Lewis Rawlins, Will Boyde, James Davies, Dylan Evans, Jonathan Evans, Rob Evans, Josh Macleod, Aaron Shingler