Dros yr wythnosau nesaf bydd y garfan yn wynebu gemau pwysig adref yma ym Mharc y Scarlets, beth am ddod a’ch ffrindiau ac aelodau’r teulu at ei gilydd i wneud y mwyaf o gyfnod y Nadolig a manteisio ar ein gostyngiadau archebu grŵp.
Gallwn gyd gytuno fod cyfnod yr ŵyl yn gallu fod yn ddrud, tybed os oedd yna ond ffordd o leihau’r gost hynny a sicrhau mis yn llawn o weithgareddau hwylus? Mae ein gostyngiadau archebu grŵp ar gael i holl aelodau’r cyhoedd sy’n archebu 8 tocyn neu fwy o fewn un trafodiad.
Ym mis Rhagfyr bydd y Scarlets yn wynebu Ulster yn nhrydydd rownd Cwpan Heineken ar y 7fed o Ragfyr, y Gleision yn y Guinness PRO14 ar y 29ain o Ragfyr yn ogystal â’r Dreigiau a Tigers Caerlyr yn y Flwyddyn Newydd, ar y 5ed a 12fed o Ionawr.
P’un ai ei fod yn noson Nadoligaidd cynnar gyda chydweithwyr neu noson gyda’ch cymdogion, sicrhewch eich bod yn archebu fel grwp i gael y fargen orau! Anghofiwch y meddyliau hynny o Ionawr sych, gallwn warantu bydd y garfan yn sicrhau perfformiadau cyffrous a bythgofiadwy i waredu’r ysoedd hynny!
Mae’r holl gemau’n cynnwys cynigion disgownt grŵp, nodir y prisiau isod;
Categori A:
Ulster – 7fed Rhagfyr
Gleision – 29ain Rhagfyr
Tigers Caerlŷr – 12fed Ionawr
Oedolion – £ 15
Plentyn – £ 4
Categori B:
Dreigiau – 5ed Ionawr
Oedolion – £ 10
Plentyn – £ 3
Dilynwch y linc isod i brynu tocynnau:
tickets.scarlets.wales