Dim newid i dîm y Scarlets ar gyfer olaf y grwp

Natalie Jones Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn croesawu RC Toulon i Barc y Scarlets prynhawn Sadwrn yng ngêm olaf y grow yn ymgyrch Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Bydd buddugoliaeth i’r Scarlets yn sicrhau lle yn rownd wyth olaf y gystadleuaeth am y tro cyntaf ers dros deng mlynedd. Mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi gwobrwyo’r tîm a sicrhaodd fuddugoliaeth arbennig dros Gaerfaddon nos Wener gan gadw’r tîm yr un peth.

Mae’r rhanbarth wedi sicrhau’r dorf Ewropeaidd fwyaf erioed ym Mharc y Scarlets gyda 13,5000 o docynnau wedi eu gwerthu yn barod, mae’r record yn sefyll ar 12,392 yn erbyn Caerlyr ym mis Ionawr 2011.

Yn yr unig newid i’r fainc fe fydd cefnogwyr yn falch iawn gweld Leigh Halfpenny yn ô li ffitrwydd.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac; “Ry’n ni’n gwybod i bet hi ddisgwyl gan Toulon, ry’n ni wedi wynebu’n gilydd ar sawl achlysur yn ddiweddar. Mae’n rhaid i ni wneud yn siwr ein bod ni ar ein gorau. 

“Un pwynt yn unig oedd yn ein gwahanu ni yn rownd gyntaf y gystadleuaeth ac fe wnaethon ni rhoi pwyntiau iddyn nhw yn gynnar yn y gêm. Roedden ni’n falch iawn ein bod ni wedi gallu brwydro’n ôl.  

“Mae’n mynd i fod yn un arall o’r gemau yna. Pwy bynnag fydd yn ennill fe fyddan nhw yn y rownd nesaf. Mae’n addo bod yn noson arbennig.”

Tîm y Scarlets i wynebu RC Toulon ym Mharc y Scarlets, Sadwrn 20fed Ionawr, cic gyntaf 5.30YH;

15 Rhys Patchell, 14 Tom Prydie, 13 Hadleigh Parkes, 12 Scott Williams, 11 Paul Asquith, 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Tadhg Beirne, 5 David Bulbring, 6 Aaron Shingler, 7 James Davies, 8 John Barclay

Eilyddion; Ryan Elias, Wyn Jones, Werner Kruger, Lewis Rawlins, Will Boyde, Aled Davies, Steff Hughes, Leigh Halfpenny

Mae nifer bach o docynnau yn weddill ar eticketing.co.uk/scarletsrugby

Fe fydd y swyddfa docynnau ar agor tan 7YH heno ac o 9YB fory. Prynnwch nhw cyn ei fod yn rhy hwyr!