Flanagan a Kelly i gefnogi’r grwp hyfforddi Dan 20 rhyngwladol

Menna Isaac Newyddion

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi enwi’r hyfforddwyr sydd ar y rhaglen datblygu ar gyfer 2018/19, wrth iddo barhau i gefnogi a datblygu hyfforddwyr ifanc.

Fe fydd Gareth Williams yng ngofal rhaglen Dan 20 Cymru, ochr yn ochr â’i rôl fel Prif Hyfforddwr Pontio. Mae Richie Pugh yn cymryd yr awennau fel prif hyfforddwr Cymru 7 Bob Ochr, wedi gweithio fel eilydd i Williams ers 2016.

Fe fydd Geraint Lewis a Chris Horsman yn parhau i arwain rhaglen Dan 18 Cymru gan gymryd cyfrifoldeb dros Cymru dan 19 hefyd, sy’n ail ddechrau eleni.

Dywedodd Geraint John, Pennaeth Perfformiad Rygbi URC, bod gweithio’n agos gyda’r rhanbarthau yn hanofol i lwyddiant y rhaglen. “Fe fydd gyda ni hyfforddwyr rhanbarhtol yn rhan ar o’r rhaglen ar bob lefle. Mae hwn yn nodwedd bwysig o strategaeth URC.

“Er enghraifft, fe fydd Richard Kelly a Dai Flanagan yn cefnogi’r rhaglen dan 20. Roedd y ddau ynghlwm â’r rhaglen y llynedd ac mae ganddynt brofiad arbennig o’r gêm rhanbarthol. FE fydd Andrew Bishop hefyd yn lais newydd ymhlith y tiim hyfforddi.”

Trwy gydol y tymor fe fydd rhaglen 7 bob ochr Cymru yn derbyn cefnogaeth gan hyfforddwyr rhanbarthol.