Glenn Delaney yn ymbwyllo ar gêm Caerdydd

Rob Lloyd Newyddion

Daeth rhediad llwyddiannus y Scarlets i ben ar nos Sadwrn wrth golli 29-20 yn erbyn Gleision Caerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Dyma beth oedd gan y prif hyfforddwr Glenn Delaney i’w ddweud yn dilyn y gêm.

Glenn, beth yw dy ymateb i’r canlyniad yna?

GD: “Chwarae teg i’r Gleision, fe lwyddon nhw i bweru trwy’r 10 munud diwethaf i gael y fuddugoliaeth. Yn dilyn camgymeriadau bach yn ystod yr ail hanner fe gollon ni’r momentwm yn ein chwarae. Yn anffodus roedd y tîm heb wneud digon i gipio’r fuddugoliaeth. Teimlais yr egni a’r cyffro yn ystod yr hanner cyntaf ond roedd ein chwarae ddim cystal ag yn annodweddiadol ar ein rhan ni. Roedd nifer o sialensiau yn ein hwynebu ni, ond roeddwn dal i deimlo ein bod gallu goresgyn hynny a gwthio trwy gan ein bod ar y blaen.”

Beth oedd dy farn ar cerdyn goch Liam Williams?

GD: “Arafodd y dyfarnwr y clip ac unwaith mae’n cael ei arafu mae’r dyfarnwyr yn penderfynu dyna beth oedd y canlyniad. Mae Liam wedi ymddiheuro, mae’n ddyn onest, ac roedd wedi siomi ei fod wedi colli allan ar chwarae gweddill y gêm.”

Beth oedd dy farn ar y gêm gyfan?

GD: “Cawsom ymdrech da allan ar y cae, roedd ceisiadau da a nifer o uchafbwyntiau. Roedd y ddau dîm llawn hyder gan chwarae ac amddiffyn yn galed. Roedd hi’n gystadleuaeth gref ar y ddau ochr, ac rydym am gadw at yr un fath o chwarae. Yn amlwg mae’r golled yn torri lawr ein momentwm, ond edrychwn i wella hyn gan edrych ymlaen at y gêm nesaf.”