Gobeithio croesawu saith chwaraewr yn ôl o anafiadau

Menna Isaac Newyddion, Newyddion Chwaraewyr

Wrth edrych ymlaen at gêm fawr y penwythnos yn erbyn Leinster yn y gynhadledd i’r wasg bore yma, Mawrth 4ydd Medi, dywedodd Wayne Pivac ei fod yn gobeithio gweld chwaraewyr yn dychwelyd o anafiadau.

Mae Haldeigh Parkes, Paul Asquith, Jake Ball, Leigh Halfpenny, Samson Lee, Dan Jones a Johnny McNicholl i gyd yn obeithiol o fod yn holl iach ar gyfer y gêm wrth i’r garfan baratoi i groesawu’r pencampwyr Leinster i’r Parc.

Dywedodd Pivac; “Mae rhai o’r chwaraewyr sydd wedi bod ar y restr anafiadau yn edrych yn dda, sy’n bositif. Mae nifer ohonyn nhw yn ôl yn ymarfer gyda ni ac yn edrych yn iawn am y penwythnos.

“Mae Hadleigh yn gorfod parhau i gryfhau ei law ac roedd e’n fater o’i rhoi yn ôl pan oedden ni’n barod. Roedd cynllun gyda ni, nid ar gyfer wythnos yma ond oherwydd yr anaf i Foxy efallai bydd yn rhaid i hynny newid!

“Cafodd Samson plat yn ei foch, fe fydd yn gorfod gwneud gwaith taclo wythnos yma ac fe newn ni alwad arno dydd Iau.

“Mae Johnny McNicholl dros y gwaethaf ar ôl yr anaf i’w foch, fe fydd e’n mynd trwy profion wythnos yma ac mae gobaith y bydd ar gael.

“Mae Jake Ball yn fwy na pharod i fynd. Fe chwaraeodd yn dda yn erbyn Bryste ac roedd yn anffodus iddo dderbyn anaf. Roedd e’n edrych yn dda yn ystod yr ymarfer ddoe (Llun) ac mae’n barod i fynd.”

Wrth adlewyrchu ar anafiadau’r penwythnos dywedodd Pivac; “Yn anffodus fe wnaethon ni ddioddef cwpwl o anafiadau eraill dros y penwythnos..

“Fe fydd Dan Jones yn rhedeg heddiw sy’n beth da, yn enwedig wrth ystyried bod Rhys Patchell yn dal i fynd trwy’r protocol cyfergyd. Mae Angus O’Brien yn dal mas gyda anaf i’w law.

“Mae chwaraewyr gyda ni sy’n gallu chwarae yn safle’r maswr. Mae Hadleigh a Paul wedi chwarae yno o’r blaen yn ogystal â Sam a Clayton. Fe newn ni weithio drwy hynny unwaith y bydd llun clir gyda ni am yr anafiadau.

“Fe deimlodd Jonathan Davies dyndra yn linyn y gâr, dyw hynny ddim yn rhywbeth i’w wthio yn enwedig mor gynnar ar ddechrau’r tymor. Roedd yn benderfyniad cywir i’w dynnu allan o’r gêm penwythnos diwethaf.

“Ry’n ni’n ei fonitro ac mae’n cael triniaeth yn ddyddiol. Mae’n rhy gloi ar gyfer y penwythnos, mae’n rhaid i ni fod yn synhwyrol

Nid yw’n meddwl ei fod yn anaf hir dymor. Fe fyddwn ni’n cadw llygad arno.”

.

Fe fydd y Scarlets yn croesawu Leinster i Barc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 8fed Medi, cic gyntaf 19:35.

Mae tocynnau ar gael nawr o tickets.scarlets.wales