Hanner canrif Ewropeaidd i’r capten Owens

Menna Isaac Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Caerlyr yn ail rownd Cwpan Pencampwyr Heineken nos Wener 19eg Hydref, gyda’r capten Ken Owens yn chwarae ei hanner canfed gêm Ewropeaidd.

Chwaraeodd Owens ei gêm Ewropeaidd gyntaf fel eilydd yn erbyn Ulster ym mis Ionawr 2007.

Fe fydd y bachwr 31 mlwydd oed yn arwain y Scarlets i’r cae nos Wener wrth i’r rhanbarth obeithio rhoi hwb i’r ymgyrch ar ôl y siom o golli’n erbyn Racing 92 ym Mharc y Scarlets penwythnos diwethaf.

Nid yw Welford Road wedi bod yn lwcus i’r rhanbarth yn hanes y gystadleuaeth ond fe fydd y rhanbarth yn gobeithio gwirdroi hynny fory.

Mae anafiadau unwaith eto wedi gorfodi Wayne Pivac i wneud newidiadau ymhlith y blaenwyr a’r olwyr o’r XV cychwynol a wynebodd y Ffrancwyr penwythnos diwethaf.

Does dim newid i’r reng flaen gyda Wyn Jones a Samson Lee yn ymuno â Owens. Nid yw Jake Ball wedi gwella o anaf i’w goes mewn pryd i gymryd ei le sy’n gweld Tom Price yn dod i mewn i ddechrau ei gêm gyntaf y tymor hwnnw. Gwelwn Blade Thomson yn symud i’r blaenasgell dywyll, Will Boyde yn symud i safle’r wythwr a Josh Macleod yn dod i mewn i’r blaenasgell agored.

Dioddefodd Angus O’Brien anaf i’w benglin penwythnos diwethaf sy’n debygol o’i gadw ar yr asgell am fisoedd sy’n rhoi cyfle i Dan Jones ddechrau yn safle’r maswr. Mae Gareth Davies, Steff Evans, Hadleigh Parkes, Jonathan Davies a Leigh Halfpenny yn cadw eu lle gyda Ioan Nicholas yn dod ar yr asgell yn lle Johnny McNicholl, sydd hefyd wedi ei anafu.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm yn erbyn Caerlyr dywedodd Pivac; “Mae’n deg dweud nad yw y naill dîm na’r llall wedi cyrraedd eu potensial eto. Ry’n ni’n gweld newidiadau cyson oherwydd anafiadau. Fe fyddwn ni’n disgwyl her anodd ar eu tir nhw.

“Mae’n le anodd i fynd iddo. Mae’n gyfle newydd i ni, ry’n ni eisiau troi’r llwyddiannau o benwythnos diwethaf.”

Tîm y Scarlets i wynebu Caerlyr ar Heol Welford, Gwener 19eg Hydref, CG 19:45;

15 Leigh Halfpenny, 14 Ioan Nicholas, 13 Jonathan Davies, 12 Hadleigh Parkes, 11 Steff Evans, 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies, 1 Wyn Jones, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Tom Price, 5 David Bulbring, 6 Blade Thomson, 7 Josh Macleod, 8 Will Boyde15 Leigh Halfpenny, 14 Ioan Nicholas, 13 Jonathan Davies, 12 Hadleigh Parkes, 11 Steff Evans, 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies, 1 Wyn Jones, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Tom Price, 5 David Bulbring, 6 Blade Thomson, 7 Josh Macleod, 8 Will Boyde

Eilyddion; 16 Ryan Elias, 17 Phil Price, 18 Werner Kruger, 19 Josh Helps, 20 Uzair Cassiem, 21 Sam Hidalgo-Clyne, 22 Steff Hughes, 23 Paul Asquith

Yn absennol;Steve Cummins, Lewis Rawlins, James Davies, Jonathan Evans, Aaron Shingler, Rhys Patchell, Tom Prydie, Kieron Fonotia, Rob Evans, Angus O’Brien, Johnny McNicholl, Jake Ball