HWYL YR WYL YN YSBYTY GLANGWILI

Natalie Jones Newyddion

Aeth nifer o chwaraewyr y Scarlets i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, i rannu bach o hwyl yr wyl cyn gêm Cwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn Benetton ar y penwythnos.

Ymweld â Ward Cilgerran, ward y plant, oedd y chwaraewyr ar ddydd Mawrth 12fed Rhagfyr gan gyfarfod nifer o blant y rhanbarth sy’n dioddef o salwch dros yr wyl.

Symudodd y chwaraewyr o wely i wely yn ystod y prynhawn gan gyfarfod plant y rhanbarth a dosbarthu anrhegion.

Mae’r ymweliadau blynyddol yn gyfle i’r chwaraewyr rhoi rhywbeth yn ôl i’r rhanbarth fel diolch am y gefnogaeth trwy gydol y tymor.

Yn bresennol ar ymweliad eleni oedd Aaron Shingler, Wyn Jones, Emyr Phillips, Dylan Evans a Josh Macelod.

Dymuna’r Scarlets ddiolch i staff Ward Cilgerran am y croeso cynnes a dymuno gwellhad buan a Nadolig Llawen i’r cleifion.

I weld mwy o luniau o’r ymweliad cliciwch yma