Macleod: “Rhaid i’r bois gamu i’r llwyfan mawr”

Menna Isaac Newyddion

Mae’r reng ôl ifanc Josh Macleod wedi dweud bod cyfrifoldeb ar chwaraewyr ifanc fel ef i gamu i’r lefel nesaf a pherfformio ar y lefel mwyaf i’r Scarlets.

Wedi dod oddi ar y fainc yn erbyn Racing 92 ym Mharc y Scarlets nos Sadwrn diwethaf i chwarae ei hanner canfed gêm i’r rhanbarth fe enwyd y blaenasgellwr 21 mlwydd oed yn nhîm cychwynol y Scarlets ar gyfer y gêm yn erbyn Caerlyr ar Heol Welford.

Mae Macleod yn un o nifer o chwaraewyr lleol ifanc a thalentog sy’n gwneud enw i’w hunain yn y rhanbarth gan gynnwys ei bartner yn y reng ôl Will Boyde a’r bachwr Ryan Elias.

Wrth ymateb i’r gêm dywedodd Macleod; “Roedden ni’n gwybod eu bod nhw am ddod ato ni gyda’r pac, pob clod iddynt oherwydd fe wnaethon nhw hynny’n dda ar sawl achlysur.

“Roeddwn i’n temlo ein bod ni wedi delio â’r pwysau yn dda, yn enwedig yn yr hanner cyntaf, ond roedd yna gamgymeriadau yn yr ail hanner y bydd yn rhaid i ni gyfrifoldeb drostynt a dysgu wrthynt.”

Aeth y Scarlets ar y blaen ar ôl awr trwy gais Blade Thomson ond Caerlyr oedd ar eu gorau yn yr ail hanner gan sicrhau’r fuddugoliaeth.

“Roedd hyder gyda ni y byddwn ni’n gallu tynnu’r sgor yn ôl yn yr ail hanner, roedd yn fater o gau’r gêm allan ond pob clod i Gaerlyr am gadw ati. Mae’n siomedig iawn.

“Mae timau da wastad yn perfformio o dan bwysau a dy’n ni ddim yn dîm gwael ar ôl un gêm.”

Roedd y Scarlets heb hanner dwsin o chwaraewyr ond aeth Macleod ymlaen i ddweud; “Dy’n ni byth yn defnyddio anafiadau fel esgus yn y tîm yma. Mae’n rhaid i fois gamu i’r lefel nesaf. Mae angen i fois ifanc fel fi gamu i’r sgidiau mawr sy’n wag ar hyn o bryd.”