“Mae gyda ni chwech diwrnod i droi pethau rownd,” medd Pivac

Menna Isaac Newyddion

Siaradodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac am ei siom ar ôl y golled i Racing 92 ym Mharc y Scarlets yn rownd agoriadol ymgyrch Cwpan Pencampwyr Heineken.

Gôl gosb gan Leigh Halfpenny oedd unig gyfle’r Scarlets yn yr hanner cyntaf gan edrych yn ddigon diogel i fynd i’r ystafell newid 3-0 ar y blaenond sgoriodd Racing gais yn y funud olaf i wirdroi’r sgôr.

Sgorwyd dwy gais gan y Scarlets, gan Gareth Davies a Johnny McNicholl, yn yr ail hanner i rhoi’r tîm cartref yn ôl ar y blaen ond unwaith eto, yn hwyr yn yr hanner fe rhoddodd y dyfarnwr gais cosb i Racing oedd yn ddigon i ddwyn y fuddugoliaeth.

Wrth siarad ar ôl y gêm dywedodd Wayne Pivac; “Ry’n ni newydd siarad yn yr ystafell newid am y siom o golli’r gêm ond mae gyda ni chwech diwrnod i droi hynny rownd. 

“Fe wnaethon ni ormod o gamgymeriadau yn yr hanner cyntaf ac nid oedd gyda ni ddigon o diriogaeth na meddiant. Fe fydden ni wedi bod yn gymharol hapus i fynd i’r ystafell newid ar y blaen o 3-0 ar ôl yr hanner cyntaf ond fe wnaethon ni adael iddyn nhw sgori cais hawdd.

“Roeddwmn i’n teimlo ein bod ni wedi gwneud digon yn yr ail hanner, fe wnaethon ni sgori ond ni lwyddon ni i fod yn ddigon amyneddgar yn y deng munud olaf.

“Ry’n ni eisiau ennill ein gemau cartref, maent yn bwysig. Fe wneathon ni golli’n gêm cyntaf ni adref y tymor diwethaf mewn amodau tebyg.”

Wrth edrych ymlaen i’r ail rownd, yn erbyn Caerlyr nos Wener yn Welford Road, dywedodd Pivac; “Mae’n rhaid i ni gael wythnos da, newn ni adolygu’r gêm a gwneud yn siwr na newn ni’r un camgymeriadau a heno. Fe fyddwn ni’n edrych ymlaen at y cyfle i ail ddechrau’n hymgyrch.”

.

Fe fydd y Scarlets yn teithio i Gaerlyr i wynebu’r Tigers, nos Wener 19eg Hydref cic gyntaf 19:45.