“Mae momentwm yn hollbwysig,” medd Evans

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd y prop penrhydd Rob Evans yn chwarae ei seithfed gêm ar hugain o’r tymor nos Wener wrth i’r Scarlets wynebu Glasgow yn rownd gyn derfynol Guinness PRO14 ond mae’n dweud ei fod yn teimlo’n ffres ac yn barod am yr her.

Mae disgwyl i Evans, sydd wedi chwarae 18 gêm i’r rhanbarth ac wyth i Gymru hyd yn hyn, ddechrau yn y reng flaen ochr yn ochr â’i gyd-chwaraewyr rhyngwladol Ken Owens a Smason Lee yn Stadiwm Scotstoun nos Wener.

Fe fyddai buddugoliaeth i’r Scarlets yn ei gweld yn symud ymlaen i’r rownd derfynol yn Nulyn wythnos nesaf gan obeithio codi tlws y bencampwriaeth am yr ail flwyddyn yn olynol.

Wrth edrych yn ôl ar y tymor hyd hyn hyn dywedodd Evans; “Mae wedi bod yn dymor hir ond rwy’n teimlo’ndda. Mae yna gwpwl o bethau bach ond dim byd anarferol am adeg yma’r tymor. Mae pawb yn teimlo ychydig o flinder adeg yma’r tymor ond mae’r cyffro wrth ddod i’r gemau yma yn gwneud yn iawn am hynny. Mae Wayne wedi gwneud gwaith da o’n cadw ni’n ffres.”

.

.

Aeth Evans ymlaen i ddweud; “Mae ennill tlysau seren y gêm wastad yn neis ond y peth pwysig yw bod y tîm yn gwneud yn dda. Roedden ni gyd wedi siomi’n fawr yn erbyn Leinster, roedd yn ergyd i’r garfan ac roedd yn bwysig ein bod ni’n dod dros hynny, yn enwedig wrth edrych ymlaen i’r gemau mawr yma a sicrhau perfformiadau mawr.

“Mae’n rhaid dysgu o’r pethau yma a dysgu lle aethon ni o’i le. Os newn ni ennill yr hawl i fynd i’r ffeinal fe allwn ni ddygu o’r camgymeriadau a gwneud yn iawn am rheini.”

Wrth son am baratoadau’r garfan cyn nos Wener dywedodd; “Ry’n ni’n gwneud yr un peth a phob wythnos arall ond ry’n ni’n gwybod ein bod ni’n wynebu her fawr. Fe fydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau os i ni am gyrraedd y ffeinal.

“Mae momentwm yn holl bwysig. Mae yna lot o gyffro wedi bod yn ystod y sesiynau ymarfer wythnos yma ac ry’n ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr at nos Wener.”

Glasgow v Scarlets, rownd gyn derfynol Guinness PRO14 yn Stadiwm Scotstoun, Gwener 18fed Mai cic gyntaf 19:45