Manylion teithio Rownd Wyth Olaf Cwpan Pencampwyr

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd Parc y Scarlets yn llwyfannu gêm rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr am y tro cyntaf erioed ar ddydd Gwener 30ain Mawrth ac yn croesawu’r dorf fwyaf erioed hefyd ers agor ym mis Tachwedd 2008.

Mae rheolwyr y stadiwm yn annog cefnogwyr i ganiatau digon o amser ar gyfer y daith i’r stadiwm ac i gyrraedd yn gynnar cyn y gic gyntaf am 17:30.

Dywedodd Dave Healey, Rheolwr y Stadiwm: “Ry’n ni’n hynod o falch o’r tîm am sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers dros degawd ac ry’n ni’n edrych ymlaen i weld y lle yn llawn.

“Diogelwch cefnogwyr yw’r peth pwysicaf i ni ac ry’n ni’n annog cefnogwyr i wneud defnydd o’r cyfleusterau a fydd ar gael ar eu cyfer ar y diwrnod.

“Gofynnwn i gefnogwyr fod yn eu seddau ac ar y safle sefyll erbyn 17:00 er mwyn sicrhau eich bod chi yn eich lle yn barod ar gyfer y gic gyntaf am 17:30.”

TEITHIO

Cyrraedd yn gynnar

Gyda thyrfa o 15,500 mae rheolwyr yn annog cefnogwyr i gyrraedd Parc y Scarlets mor gynnar a phosib.

Gadewch digon o amser i chi fwynhau’r awyrgylch a’r adloniant cyn y gêm a gwneud y mwyaf o Wyl y Banc!

Fe fydd Pentref y Cefnogwyr ar agor o 14:30 yn ogystal a llefydd bwyd a diod ychwanegol tu allan i’r Pentref hefyd.

Fe fydd y gatiau i’r pedwar stand yn agor am 15:00 gan rhoi digon o amser i chi gyrraedd eich sedd a ffeindio lle ar y safle sefyll yn gynnar!

Gwasanaeth Parcio a Theithio

Ry’n ni eisiau gwneud eich siwrne i’r stadiwm mor llyfn a phosib. Fe fydd tri lleoliad parcio a theithio yn gweithredu ar y diwrnod o Schaeffler (UK) Ltd, Technium Dafen a Festival Fields Heol y Sandy.

Fe fydd amserlenni yn cael eu cyhoeddi ar scarlets.wales a thudalennau cymdeithasol yn agosach at y diwrnod.

Bws gwennol

Fe fydd bws gwennol y Scarlets yn rhedeg fel pob gêm arall o’r orsaf drenau, llyfrgell, Domino’s Pizza gan rhoi cyfle i chi adael eich car adref.

Fe fydd amserlenni yn cael eu cyhoeddi ar scarlets.wales a thudalennau cymdeithasol yn agosach at y diwrnod.

Taxis

Mae llond lle o gwmniau tacsis ar gael yn Llanelli. Awgrymwn eich bod chi’n archebu tacsi o flaen llaw.

Ardaloedd preswyl

Gofynnwn yn garedig i chi beidio a pharcio mewn ardaloedd preswyl o amgylch y stadiwm. Os yddych yn ymweld â Pharc y Scarlets defnyddiwch un o’r cyfleusterau sydd ar eich cyfer, fel y bws gwennol neu gwasanaeth parcio a theithio. Gofynnwn hefyd i chi beidio a pharcio ar lawntydd nac wrth ochr yr hewl. Mae’n achosi difrod ond yn bwysicach y natal mynediad cerbyndau argyfwng.