Manylion tocynnau Rownd yr 8 Olaf

vindico Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn croesawu La Rochelle i Barc y Scarlets ar benwythnos y Pasg yn rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Bydd dyddiad ac amser cic gyntaf y gêm yn cael eu cyhoeddi yn hwyrach yr wythnos hon.

Nid yw’r gêm yn rhan o docynnau tymor ac mae’r wybodaeth i gyd sydd angen arnoch chi fel a ganlyn.

Dalwyr Tocyn Tymor

Fe fydd gan ddalwyr tocyn tymor gyfnod arbennig i brynu eu sedd / tocyn sefyll o 9YB Gwener 26ain Ionawr i 7YH Gwener 9fed Chwefror.

Cewch brynu’r tocyn am bris gêm Categori A presennol, cewch ddod o hyd i’r prisiau i gyd yn y tabl isod.

e.e. os oes gennych Docyn Tymor Safle Sefyll fe fyddwch chi’n talu pris Categori A o £18

Ni fydd dalwyr tocyn tymor yn gallu prynu tocynnau ychwanegol cyn i’r tocynnau fynd ar werth i’r cyhoedd.

Nid yw’n bosib i ni gadw tocynnau na’ch sedd tu hwnt i’r dyddiadau uchod.

Opt In

Fe fydd cefnogwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer E-lythyr ‘Hotspot’ y Scarlets yn cael cyfnod unigryw 24-awr rhwng 7YH Iau 8fed Chwefror – 7YH Gwener 9fed Chwefror i brynu tocynnau.

Gwethiant Cyhoeddus

Fe fydd y tocynnau, gêm a lletygarwch, yn mynd ar Werthiant Cyhoeddus am 9YB Sadwrn 10fed Chwefror.

Prisiau tocynnau Rownd yr 8 Olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop;

   Pris tocyn gêmDalwyr Tocyn Tymor – Categori A
Strade  
Oedolyn£42£38
Consesiwn£42£38
Ieuenctid£8£8
YAFTS (17 yrs +)£12£12
   
1872  
Oedolyn£38£36
Consesiwn£32£30
Ieuenctid£8£7
YAFTS (17 yrs +)£12£12
   
Premier  
Oedolyn£36£33
Consesiwn£30£26
Ieuenctid£7£6
YAFTS (17 yrs+)£11£10
   
Safonol  
Oedolyn£33£25
Consesiwn£26£20
Ieuenctid£6£5
YAFTS (17 yrs+)£10£9
   
Safle Sefyll  
Oedolyn£25£18
Consesiwn£20£14
Ieuenctid£5£5
YAFTS (17 yrs+)£9£7

Fe fyddwn ni’n gallu cadarnhau dyddiad ac amser y gêm yn hwyrach yr wythnos yma pan fyddwn ni’n derbyn cadarnhad.

Diolch am eich cydweithrediad a’ch cefnogaeth.