Mwynhewch Barti Nadolig gyda ni

Kieran Lewis Newyddion

Mae Parc y Scarlets wedi cyhoeddi manylion Partïon Nadolig 2018!

Aur Yw Popeth Melyn ym Mharc y Scarlets eleni ac ry’n ni’n edrych ymlaen i’ch croesawu ar gyfer noson ffansi o giniawa, dawnsio a chasino a llawer mwy!

Mae tocynnau yn £35 y pen ac yn cynnwys:

  • Pryd o fwyd tri chwrs moethus
  • Casino hwylus gyda blackjack a roulette
  • Disgo gyda system oleuadau proffesiynol
  • Photobooth proffesiynol gyda lluniau am ddim
  • Tîm diogelwch

Y dyddiadau sydd ar gael ar hyn o bryd yw:

  • Gwener 30ain Tachwedd
  • Sadwrn 1af Rhagfyr
  • Gwener 21ain Rhagfyr
  • Sadwrn 22ain Rhagfyr

Fe fydd dyddiadau pellach ar gael unwaith y bydd holl ddyddiadau gemau’r Scarlets wedi eu cadarnhau. 

Am wybodaeth pellach neu i archebu lle ebostiwch [email protected] neu ffoniwch 01554 783900.