Owens; “Mae’n gêm gwpan i ni,”

vindico Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn wynebu rownd olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop dydd Sadwrn gyda chyfle i gyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers un-ar-ddeg mlynedd.

Roedd Ken Owens 19 mlwydd oed ar y fainc y tro diwethaf y chwaraeodd y Scarlets mewn gêm yn rownd yr wyth olaf gan sicrhau buddugoliaeth dros Munster i gyrraedd rownd yr ail gyfle.

Ciciodd Stephen Jones tri trosiad yn y gêm ac fe fydd y ddau yn gobeithio ail fyw’r llwyddiant penwythnos yma.

Gwelwyd ceisiau syfrdanol yn y fuddugoliaeth dros Gaerfaddon nos Wener. Wrth siarad ar ôl y gêm dywedodd Owens; “Dyna sut ry’n ni’n ymarfer yn yr wythnos. Mae wedi hala ychydig o amser i ni rhoi popeth ynghyd ond roedd heno yn debyg i’r gemau ar ddiwedd tymor diwethaf.

“Ry’n ni gyd yn deal ein gilydd. Y peth mwyaf, ac rwyf innau wedi bod ynghlwm â’r Scarlets am gyfnod hir, yw ein bod ni’n gweithio’n galed iawn i’n gilydd. Ry’n ni’n mwynhau cwmni’n gilydd ac mae hynny i’w weld ar y cae.

“Ry’n ni wedi dysgu fel chwaraewyr bod yn rhaid i ni ddisgwyl yr anisgwyl. Mae gyda ni chwaraewyr da iawn ac ry’n ni’n chwarae brand da o rygbi ac ry’n ni’n mwynhau hynny.”

Aeth ymlaen i ddweud; “Ry’n ni wedi datblygu mewn i dîm gemau mawr gyda chwaraewyr gemau mawr sy’n gallu camu i’r fau. Fe welwyd lot o waith da iawn heno. Roedden ni o dan bwysau yn yr ail hanner ond fe welwyd perfformiad arbennig gan bob un chwaraewr.

“Ry’n ni ond wedi gwneud hanner y gwaith. Fe fyddwn ni’n dathlu’r fuddugoliaeth yma ond mae hanner y gwaith yn dal ar ôl i’w wneud. Ry’n ni wedi rhoi cyfle i ni gyrraedd rownd yr wyth olaf ond fe fydd wythnos nesaf fel gêm derfynol i ni.

“Roeddwn i’n chwaraewr 19 mlwydd oed y tro diwethaf i ni gyrraedd rownd wyth olaf ac mae hynny’n teimlo fel byd arall.

“Un o’r ffactorau mawr sydd wedi’n gyrru ni ymlaen tymor yma yw eisiau cael argraff ar Ewrop. Ry’n ni eisiau bod yn rhan o’r gemau yma.”

Mae tocynnau Scarlets v Toulon ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 20fed Ionawr, cic gyntaf 5.30YH, ar gael nawr o eticketing.co.uk/scarletsrugby