Owens yn dychwelyd i arwain y Scarlets

Menna Isaac Newyddion

Mae’r capten Ken Owens yn dychwelyd ar gyfer y gêm ddarbi fawr yn erbyn y Gweilch prynhawn Sadwrn.

Fe fydd Owens yn arwain y Scarlets i’r cae ym Mharc y Scarlets yng ngêm ddarbi cyntaf Guinness PRO14 y tymor hwn.

Mae’r Scarlets a’r Gweilch yn ail yn eu Hadrannau gyda’r ddau dîm yn gobeithio sicrhau buddugolieth a diweddglo positif i floc agoriadol y Guinness PRO14 cyn i’r sylw droi at gystadleuthau Ewrop wythnos nesaf.

Mae’r Prif Hyfforddwr Wayne Pivac wedi enwi tîm cryf ar gyfer y gêm fawr gyda llinell ôl sy’n llawn chwaraewyr rhyngwladol gyda Leigh Halfpenny, Tom Prydie, Hadleigh Parkes a Gareth Davies yn dychwelyd.

Mae Wyn Jones a Samson Lee yn ymuno â Ken Owens yn y reng flaen gyda Will Boyde yn dychwelyd i safle’r blaenasgellwr ar ôl gwella o lawdriniaeth i’w ysgwydd yn gynharach yr haf.

Daw Josh Macleod yn ôl i’r fainc hefyd ar ôl gwella o anaf a dderbyniodd i’w ysgwydd yn yr ail rownd yn erbyn Leinster.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd Pivac; “Mae’r Gweilch wedi gwella llawer ers tymor diwethaf. Dy’n ni ddim wedi gadael i dimau sgori lot o geisiau yn eu herbyn ac maent llawer yn well yn amddiffynol.

“Mae gyda nhw pac cryf. Ry’n ni’n eu parchu. Rwy’n mwynhau’r gemau yma’n fawr, Mae pawb eisiau chwarae yn y gemau yma.”

.

Tîm y Scarlets i wynebu’r Gweilch ym Mharc y Scarlets, Sadwrn 6ed Hydref, cic gyntaf 15:00;

15 Leigh Halfpenny, 14 Tom Prydie, 13 Kieron Fonotia, 12 Hadleigh Parkes, 11 Johnny McNicholl, 10 Rhys Patchell, 9 Gareth Davies, 1 Wyn Jones, 2 Ken Owens (c), 3 Samson Lee, 4 Jake Ball, 5 David Bulbring, 6 Ed Kennedy, 7 Will Boyde, 8 Blade Thomson

Eilyddion; 16 Ryan Elias, 17 Phil Price, 18 Werner Kruger, 19 Tom Price, 20 Josh Macleod, 21 Sam Hidalgo-Clyne, 22 Angus O’Brien, 23 Paul Asquith

Wedi’u hanafu; Steve Cummins, Lewis Rawlins, James Davies, Dylan Evans, Jonathan Evans, Rob Evans, Aaron Shingler, Jonathan Davies