Parkes i chwarae ei 100fed gêm

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd canolwr y Scarlets a Chymru Hadleigh Parkes yn chwarae ei 100fed gêm i’r rhanbarth nos Sadwrn yn rownd derfynol Guinness PRO14.

Mae’r rhanbarth wedi cyrraedd ail rownd derfynol mewn dau dymor gyda’r Scarlets yn paratoi i wynebu Leinster yn Stadiwm Aviva, Dulyn.

Daw’r cefnwr Leigh Halfpenny yn ôl i mewn i’r garfan ar ôl methu a chwarae yn y rownd gyn derfynol yn erbyn Glasgow penwythnos diwethaf oherwydd anaf. Gyda Halfpenny yn ôl yn y XV cychwynol fe welir Johnny Mcnicholl yn symud i’r asgell gyda Tom Prydie yn symud i’r fainc.

Yn dilyn llawdriniaeth i dendon Achilles John Barclay mae Pivac wedi gorfod gwneud newidiadau i’r pac. Mae Tadhg Beirne yn symud i safle’r wythwr i bartneri James Davies a Aaron Shingler yn y reng ôl. Daw Lewis Rawlins i mewn i bartneri Steve Cummins yn yr ail reng gyda’r reng flaen yn aros yn ddi-newid.

WRth edrych ymlaen i rownd derfynol Guinness PRO14 dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac; “Maent yn dîm da. Does dim angen i ni edrych ymhellach na rownd gyn derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop i weld hynny. Fe aethon nhw ymlaen i ennill y brif wobr, a gwneud hynny’n llawn haeddianol hefyd.

“Roedd eu gallu i buddugoliaeth dros Munster wythnos yn ddiweddarach yn dango cryfder y garfan.

“Ry’n ni’n disgwyl gêm fawr. Mae’n her anferthol i ni ond rwy’n meddwl y bydd yn gêm arbennig. Os ydyn ni am ennill ry’n ni am wneud hynny yn erbyn y gorau.”

Tîm y Scarlets i wynebu Leinster yn rownd derfynol Guinness PRO14 yn Stadiwm Aviva, Dulyn, cic gyntaf 18:00;

15 Leigh Halfpenny, 14 Johnny Mcnicholl, 13 Scott Williams, 12 Hadleigh Parkes, 11 Steff Evans, 10 Rhys Patchell, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Lewis Rawlins, 5 Steve Cummins, 6 Aaron Shingler, 7 James Davies, 8 Tadhg Beirne

Eilyddion; Ryan Elias, Wyn Jones, Werner Kruger, David Bulbring, Will Boyde, Jonathan Evans, Dan Jones, Tom Prydie

.