Parkes y diweddaraf i arwyddo cytundeb newydd

Kieran Lewis Newyddion

Ry’n ni’n falch iawn cadarnhau bod canolwr Scarlets a Chymru Hadleigh Parkes wedi arwyddo cytundeb newydd i’w gadw yng Ngorllewin Cymru.

Gyda’r gallu i chwarae yng nghanol cae ac ar yr asgell mae Parkes wedi datblygu i fod yn rhan allweddol o garfan y Scarlets a chwaraeodd ym mhob gêm Guinness PRO12 a Chwpan Ewropeaidd y rhanbarth yn nhymor 2015-16.

Yn chwaraewr gyda sgiliau arweinyddol da mae wedi arwain y Scarlets ar sawl achlysur yn absennoldeb y capten Ken Owens.

.

Mae wedi chwarae 93 gêm i’r rhanbarth hyd yn hyn gan sgori deuddeg cais.

Aeth Parkes ymlaen i ennill ei gap rhyngwladol cyntaf ar ddydd Sadwrn 2il Rhagfyr 2017, yn erbyn De Affrica, ar ôl cael ei alw i garfan Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac; Rwy’n falch iawn bod Hadleigh wedi penderfynu aros yma gyda’r Scarlets.

“Mae e wedi bod yn chwaraewr cyson ers ymuno ar ac oddi ar y cae. Mae wedi arddangos rhinweddau arwain arbennig, yn enwedig yn ystod y cyfnodau rhyngwladol cyn iddo ymuno â’r garfan ei hun.

“Ry’n ni’n falch iawn ei weld yn mwynhau’r un llwyddiant nawr ar y lefel rhyngwladol hefyd.”

Dywedodd Hadleigh Parkes; “Mae wedi bod yn dair mlynedd a hanner arbennig gyda’r Scarlets ac rwy’n falch iawn arwyddo cytundeb newydd ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

“Rwy’n mwynhau fy rygbi yn fawr ac rwy’n cael dod i’r gwait ghyda grwp arbennig o chwaraewyr a thîm o hyfforddwyr da hefyd.

“Mae gyda ni cwpwl o fisoedd cyffrous o’n blaenau, gan ddechrau nos Wener yma yn erbyn La Rochelle yn rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y dyfodol.”

Gwnewch yn siwr eich bod chi #ynypac gyda Hadleigh Parkes; mae Tocynnau Tymor 2018-19 ar werth nawr. Am wybodaeth pellach cliciwch yma neu i brynu tocyn cliciwch yma

.