Partneriaeth newydd i’r Scarlets

Kieran Lewis Newyddion

Mae’r cwmni cludo ‘Ronnie S Evans’ yn un o’r noddwyr mwyaf diweddar i gysylltu â’r Scarlets fel Partner Cit cyn y tymor 2018-2019.

Mae’r cwmni Cymreig, sy’n cael ei redeg gan deulu sy’n siarad Cymraeg, yn ymfalchïo yn ei threftadaeth a’i iaith sy’n adlewyrchu eu diwylliant a’u gwerthoedd yn yr hyn y maent yn ei wneud, yn yr un modd â’r Scarlets yn falch iawn o gynrychioli Gorllewin Cymru a chymunedau rygbi’r rhanbarth.

Dywedodd Nathan Brew, Pennaeth Masnachol y Scarlets; “Rydym wedi gweld ein partneriaeth gyda Ronnie S Evans yn ffynnu yn ddiweddar ac rydym wrth ein bodd yn eu croesawu’n swyddogol fel partner cit”.

“Mae’r cwmni gyda’i phrif bencadlys ym Mancffosfelen, yng nghanol Gorllewin Cymru, yn hynod o falch o’u gwreiddiau Cymreig yn union fel yr ydym yma yn y Scarlets”.

“Mae lorïau Ronnie S Evans yn adnabyddus ar draws y DU ac Ewrop, ac rydym yn hynod o falch o’n cysylltiad â chwmni mor llwyddiannus.”