PATCHELL: “MAE HWN YN GYFLE GO IAWN I NI. RY’N NI GYD WEDI’N CYFFROI GYDA’R CYFLE.”

Natalie Jones

Fe fydd Rhys Patchell yn chwarae yn safle’r cefnwr ym mhumed rownd Cwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn Caerfaddon nos Wener yn dilyn perfformiad Seren y Gêm penwythnos diwethaf.

Mae’r chwaraewr 24 mlwydd oed wedi chwarae 38 gêm i’r Scarlets ac fe fydd yn wynebu Caerfaddon gyda’r dîm yn gobeithio sicrhau buddugoliaeth i gadw’r ymgyrch Ewropeaidd yn fyw.

Fe fyddai buddugoliaeth dros Caerfaddon yn gweld y Scarlets yn dychwelyd i Barc y Scarlets gyda’r cyfle o gyrraedd rownd yr wyth olaf yn eu dwylo.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd Rhys Patchell; “Y peth mawr yw ein bod ni’n rhoi popeth sydd gyda ni. Gobeithio y cewn ni noson sych a gewn ni weld o’r fan hynny. Mae e’n giem fawr i’r ddau dîm yn Ewrop.”

Sicrhaodd y Scarlets buddugoliaethau dros y rhanbarthau eraill dros yr wyl wrth baratoi ar gyfer yr ymgyrch Ewropeaidd; Aeth Patchell ymlaen i ddweud; “Dy’n ni ddim wedi chwarae’n rygbi gorau ond doedd dim rhaid i ni chwarae’n rygbi gorau, mae angen hynny nawr. Mae hwn yn gêm fawr. Fe fydd hi’n anodd iawn os newn ni golli nos Wener ac fe fydd yn rhaid i ni ddibynnu ar ganlyniadau pobl eraill.

“Fe fydd y timau i gyd yn obeithiol. Mae hwn yn benwythnos holl bwysig yn nhermau’r grwp. Mae’n gyffrous iawn.

“Dyma’n union pam bod Ewrop yn grêt. Mae wedi dod lawr i’r ddau benwythnos olaf a dyma’r gemau y mae’r bois eisiau bod yn rhan ohonyn nhw.

“Ry’n ni’n gallu teimlo’r cyffro. Mae hwn yn gyfle go iawn. Ry’n ni gyd wedi’n cyffroi gyda’r cyfle.”

Fe fydd y Scarlets yn dychwelyd i Barc y Scarlets ar nos Sadwrn 20fed Ionawr i wynebu Toulon, cic gyntaf 5.30YH.

Prynnwch docynnau nawr o eticketing.co.uk/scarletsrugby