Patchell yn dychwelyd ar gyfer y gêm yn erbyn Connacht

Menna Isaac Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn teithio i orllewin Iwerddon ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Connacht ym mhedwerydd rownd Guinness PRO14 dros y penwythnos.

Mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi gallu galw ar arbenigedd y maswr Rhys Patchell ar gyfer y gêm wrth iddo ddychwelyd i’r cae ar ôl dioddef cyfergyd yn y gêm yn erbyn Leinster yn rownd dau.

Patchell yw’r unig newid i’r linell ôl a wynebodd Benetton ym Mharc y Scarlets penwythnos diwethaf. Mae Pivac wedi ei orfodi i wneud un newid i’r pac gyda James Davies yn absennol oherwydd anaf i’w benglin.

Daw’r blaenwr Lewis Rawlins i’r pac ochr yn ochr â Ed Kennedy a Blade Thomson yn y reng ôl.

Daw Uzair Cassiem i mewn i’r fainc, ar ôl dioddef anaf i’w benglin yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Caerfaddon, gan obeithio chwarae ei gêm gystadleuol cyntaf i’r Scarlets.

Wrth adlewyrhcu ar y tri rownd cyntaf dywedpdd Pivac; “Fe wnaethon ni osod targed, roedden ni eisiau bod ar ryw ddeg pwynt o’r tri gêm cyntaf. Ry’n ni wedi dweud ers y diwrnod cyntaf na fydden ni’n berffaith o’r cychwyn cyntaf oherwydd yr amser cafodd y bois bant dros yr haf. Mae’n bwysig ar hyn o bryd casglu pwyntiau ac adeiladu momentwm. Mae ennill yn arwain at fomentwm.”

Wrth edrych ymlaen at gêm prynhawn Sadwrn yn erbyn Connacht aeth ymlaen i ddweud; “Mae gyda ni gêm fawr penwythnos yma oddi cartref. Fe fyddai buddugoliaeth yn ein rhoi mewn safle da am y tymor, dyw e ddim yn le hawdd i fynd felly ry’n ni’n edrych ymlaen at y penwythnos.

“Roeddwn i’n bles iawn gyda’r pump pwynt wythnos diwethaf ond mae lot o waith gyda ni ar ôl i’w wneud. Roedd e’n siomedig na wnaethon ni sicrhau perfformiad da fel wnaethon ni yn erbyn Leinster.”

Tîm y Scarlets i wynebu Connacht, yn y Sportsground, Sadwrn 22ain Medi, cic gyntaf;

15 Leigh Halfpenny, 14 Tom Prydie, 13 Kieron Fonotia, 12 Hadleigh Parkes, 11 Johnny McNicholl, 10 Rhys Patchell, 9 Gareth Davies, 1 Phil Price, 2 Ken Owens (c), 3 Samson Lee, 4 Jake Ball, 5 Steve Cummins, 6 Ed Kennedy, 7 Lewis Rawlins, 8 Blade Thomson

16 Ryan Elias, 17 Wyn Jones, 18 Werner Kruger, 19 David Bulbring, 20 Uzair Cassiem, 21 Sam Hidalgo-Clyne, 22 Angus O’Brien, 23 Paul Asquith