PATCHELL YW’R DIWEDDARAF I YMESTYN EI GYTUNDEB

Natalie Jones Newyddion

Mae’r Scarlets yn falch iawn o gadarnhau bod y maswr Rhys Patchell wedi cytuno ar gytundeb newydd gyda’r Scarlets.

Mae Patchell wedi gwneud 34 ymddangosiad i’r rhanbarth ers ymun cyn tymor 2016-17. Fe ddechreuodd pob un o 21 gêm cystadleuol y rhanbarth yn ei dymor cyntaf gyda’r Scarlets ac mae wedi sgori 274 pwynt hyd yn hyn.

Chwaraeodd ei gêm rhyngwladol cartref cyntaf prynhawn Sadwrn diwethaf pan ddaeth oddi ar y fainc yn erbyn De Affrica, gan ennill ei chweched cap rhyngwladol.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Wayne Pivac; “Ry’n ni’n falch iawn cadarnhau bod Rhys wedi arwyddo cytundeb newydd a fydd yn ei weld yn aros gyda’r rhanbarth.

“Mae e wedi bod yn dda iawn i ni ac mae’n hawdd gweld bod y newid wedi gweithio. Roedd pawb yn ei weld fel cefnwr cyn iddo ddod yma ac mae e’n cael ei ddewis fel maswr rhyngwladol erbyn hyn. Ry’n ni’n falch iawn o hynny, mae Rhys wedi gwneud lot o waith.”

Ychwanegod Rhys Patchell; “Rwy’n falch iawn ymestyn fy nghytundeb yma ym Mharc y Scarlets. Rwy’n teimlo bod fy ngêm wedi datblygu ers symud yma yn haf 2016 ac rwy’n edrych ymlaen i barhau i ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf.

“Roedd gweithio gyda Wayne a’r staff hyfforddi yn un o resymau mawr dros y newid ac rwy’n falch iawn eu bod nhw wedi ymestyn eu cytundebau hefyd.

“Mae dechrau da i’r gynghrair wedi ein rhoi ni mewn safle da wrth i ni edrych ymlaen at y gemau dros yr wyl. Rwy’n edrych ymlaen at ddod yn ôl i mewn i’r garfan a cheisio datblygu fy gêm ymhellach dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”

Rhys Patchell yw’r diweddaraf i arwyddo cytundeb newydd gyrraedd Scarlets. Mae’n ymuno â James Davies, Dylan Evans, Wyn Jones, Stephen Jones a Byron Hayward yn ogystal ia Steven Cummins sydd wedi ymuno â’r rhanbarth.

Mae tocynnau hanner tymor ar gael nawr o £80. Prynnwch docynnau ar y we o eticketing.co.uk.scarletsrugby