Phillips yn cyhoeddi ei ymddeoliad

Kieran Lewis Newyddion

Mae Emyr Phillips wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn ymddeol ar ddiwedd tymor 2017-18.

Ar ôl degawd o rygbi gyda’r Scarlets mae’r bachwr 31 mlwydd oed wedi penderfynu dod a’i yrfa fel chwaraewr i ben er mwyn canolbwyntio ar y bennod nesaf fel hyfforddwr.

Ers chwarae ei gêm gyntaf i’r rhanbarth ym mis Mawrth 2009, yn erbyn y Dreigiau, mae Phillips wedi datblygu if od yn un o gonglfeini’r rhanarth ac mae wedi chwarae 152 o gemau hyd yn hyn, gan gynnwys ymddangosiad oddi ar y fainc yn rownd cyn derfynol a therfynol Guinness PRO12 y tymor diwethaf.

Mae e’n flaenwr deinamig a chorfforol, gyda’r gallu i symud i’r blaenasgell ar adegau oherwydd ei gyflymder, wedi bod yn aeloda dylanwadol o’r garfan dros y deng mlynedd diwethaf. Mae e’n chwaraewr sy’n uchel ei barch ymhlith ei gyd-chwaraewyr a hyfforddwyr ac mae wedi arwain y rhanbarth ar sawl achlysur.

Yn ogystal a chwarae dros gant a hanner o gemau i’r Scarlets mae Phillips wedi cynrychioli ei glwb cartref Llanymddyfri ar 130 o adegau hefyd.

Datblygodd trwy’r graddau oed gyda’r Porthmyn cyn chwarae ei gêm rhannol-broffesiynol gyntaf yn 18 mlwydd oed yn erbyn Cross Keys. Cafodd gynnig cytundeb gyda’r Scarlets ar ôl perfformiadau arbennig i’r Porthmyn.

Mae Phillips wedi sgori 21 o geisiau mewn 282 o gemau i Lanymddyfri a’r Scarlets. Enillodd y cyntaf o dri chap rhyngwladol yn erbyn Siapan yn 2013.

Fel rhan o’i ddatblygiad professiynol mae wedi bod yn gweithio fel Hyfforddwr y Blaenwyr gyda Scarlets dan 18 ac yn fwy diweddar Clwb Rygbi Llanelli.

Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol Rygbi’r Scarlets; “Hoffwn gymryd y cyfle yma, ar ran y Scarlets, i ddiolch i Emyr am ei wasanaeth i’r clwb a’r rhanbarth dros y deng mlyned diwethaf. Rwy’n ei gofio yn ymuno â ni yn y timau dan 18 a dan 20. Roedd ei angerdd dros chwarae i’r Scarlets yn amlwg o’r cychwyn cyntaf ac mae wedi parhau trwy gydol ei yrfa.

“Mae gyrfa Emyr wedi dioddef oherwydd anafiadau ond mae wedi parhau yn bositif ac yn bendant trwy gydol gan lwyddo i chwarae dros 150 o weithiau i’r Scarlets, carreg filltis sydd ddim yn cael ei chyrraedd yn aml y dyddiau yma mewn un clwb.

“Mae e’n Scarlet go iawn, wedi cynrychioli’r rhanbarth gyda balchder ac angerdd ar ac oddi ar y cae. Mae ganddo dalent fel arweinydd, fel chwaraewr ac yn ei rôl newydd fel hyfforddwr. Mae ei amser fel hyfforddwr gyda’r tîm dan 18 a Llanelli hyd yn hyn wedi dangos bod ganddo dyfodol disglair o’i flaen ac ry’n ni’n dymuno pob llwyddiant iddo.”

Ychwanegodd Emyr Phillips; “Dyw e ddim wedi bod yn benderfyniad hawdd i rhoi’r gorau i chwarae ond rwy’n teimlo bod yr amser yn iawn i droi’r ffocws at hyfforddi a rhoi’r gorau i chwarae ar fy nhelerau fi fy hun.

“Hoffwn ddiolch i bawb yng nghlwb Llanymddyfri a’r Scarlets; y chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff am eu cefnogaeth dros y degawd diwethaf. Mae’r staff meddygol yn y Scarlets wedi bod yn wych trwy’r cyfnodau anodd gydag anafiadau.

“Roedd e’n anrhydedd bod yn rhan o’r garfan a gododd tlws Guinness PRO12 y tymor diwethaf ac mae’n brofiad a fydd yn aros gyda fi am oes..”