Pivac; “Fe ddaethon ni am bump pwynt,”

Kieran Lewis Newyddion

Yn dilyn pump cais yn Stadiwm Principality prynhawn Sadwrn fe sicrhaodd y Scarlets gêm gartref yn y Rowndiau Terfynol penwythnos nesaf gan gadw’r ymgyrch i godi tlws Guinness PRO14 yn fyw.

Wedi siom y golled yn erbyn Leinster yn rownd gyn derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop penwythnos diwethaf roedd y Scarlets yn benderfynol o ddychwelyd i’r cae a sicrhau perfformiad a chanlyniad positif a chael y cyfle i chwarae ym Mharc y Scarlets unwaith eto cyn ddiwedd y tymor.

Fe fyddai’r Scarlets yn wynebu’r Dreigiau yng ngêm agoriadol Dydd y Farn gyda’r rhanbarth o’r Dwyrain yn chwarae gêm olaf y tymor.

Nid oedd buddugoliaeth yn ddigon i sicrhau’r gêm gartref gyda Chaeredin yn ddigon agos i ddifetha’r parti hwnnw, roedd yn rhaid sicrhau’r pwynt bonws.

Er gwaethaf hanner cyntaf digon araf fe lwyddodd y Scarlets i gael cais ar y bwrdd trwy waith caled y blaenwyr gyda’r bachwr Ryan Elias yn hawlio cais.

Gwelwyd mwy o rygbi arferol y Scarlets yn yr ail hanner gyda chais cosb, dwy gais i Tadhg Beirne a chais i Steff Evans yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth. Fe groesodd y cefnwr Leigh Halfpenny y gwyngalch ond dyfarnwyd bod camgymeriad yn gynharach yn y symudiad.

Wrth adlewyrchu ar y gêm dywedodd Wayne Pivac; “Fe ddaethon n ii gael pump pwynt ac ni wnaethon ni guddio’r ffaith hwnnw. Roedd pawb yn ymwybodol o’r hyn oedd angen cyn y gêm. Fe gaethon ni’r pump pwynt ac ry’n ni’n hapus gyda hynny ond dyna’r cyfan ry’n ni’n hapus ag ef.”

Wrth son am y gêm gartref wythnos nesaf aeth ymlaen i ddweud; “Mae’n gêm anferth. Ry’n ni’n teimlo ein bod ni wedi siomi’r cefnogwyr wythnos diwethaf ac mae’r bois yn teimlo na wnaethon nhw chwarae’n ddigon da. Maent wir eisiau cyfle arall i chwarae o flaen y cefnogwyr.”

Scarlets v Cheetahs, Sadwrn 5ed Mai, Parc y Scarlets cic gyntaf 18:35.