Pivac; “Ry’n ni’n mynd i’r cyfeiriad cywir gyda digon o waith i’w wneud.”

Menna Isaac Newyddion

Bu llawer o siarad cyn y gêm fawr nos Sadwrn gyda’r Scarlets yn awyddus iawn i wnued yn iawn am y siom o golli yn rownd gyn derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop a rownd derfynol Guinness PRO14 yn erbyn Leinster ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Fel y disgwyl, roedd y gêm yn yr ail rownd yn ddigwyddiad llawn cyffro ac yn hynod gorfforol gyda’r ddau dîm yn llawn profiad rhyngwladol.

Sicrhaodd Leinster buddugoliaeth hwyr dros Gleision Caerdydd wythnos diwethaf, gan ennill peynt bonws ceisiau hefyd, gyda’r Scarlets yn colli yn y ffordd mwyaf torcalonnus o gôl gosb hwyr gan Ulster yn Stadiwm Kingspan.

Gyda gêm yn unig wedi chwarae roedd gêm nos Sadwrn yn teimlo fel un roedd yn rhaid ennill ac ni siomwyd gan y perfformiad, na’r achlysur.

Wrth siarad ar ôl y gêm dywedodd Wayne Pivac; “Ry’n ni wedi cael amser dros yr haf i adlewyrchu ar y tymor diwethaf ac edrych ar yr hyn oedd angen i ni wella yn erbyn Leinster. Roedd wynebu Leinster mor gynnar yn y tymor yn gyfle i ni weld lle ry’n ni wedi gwella a faint o waith sy’n dal i’w wneud.

“Roedden ni’n bles iawn gyda’r canlyniad, roedd e’n wych gweld y reolaeth ar ôl i ni golli wythnos diwethaf yn y munudau olaf.

“Ry’n ni’n bles o berspectif y garfan ac rwy’n teimlo ein bod ni’n mynd i’r cyfeiriad cywir gyda gwaith yn dal i’w wneud.

“Mae’r anafiadau’n peri pryder ond roedd y canlyniad yn bwysig.”

Nid yw’r Scarlets wedi colli ym Mharc y Scarlets yn y Guinness PRO14 ers rownd gyntaf tymor 2016-17, yn erbyn Munster. Aeth Pivac ymlaen i ddweud; “Mae gyda ni record balch iawn adref ac redden ni eisiau gweld hwn yn parhau. Mae’r bois yn falch iawn ohono, ac yn ddigon teg hefyd, mae’n record eithaf trawiadol.”   Fe fydd y Scarlets yn croesawu Benetton i’r Parc nos Sadnwr, 15fed Medi, cic gyntaf 17:15. Mae tocynnau ar gael nawr ar tickets.scarlets.wales neu ffoniwch 01554 29 29 39.