Prydie yn ôl ar gyfer y gêm yn erbyn y Cheetahs

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn croesawu’r asgellwr Tom Prydie yn ôl i’r cae prynhawn Safwrn wrth i’r rhanbarth wynebu’r Toyota Cheetahs yn rownd go-gyn derfynol Guinness PRO14 ym Mharc y Scarlets.

Daw Prydie yn ôl i mewn i’r tîm ar ôl iddo wella o anaf i’w bigwrn a ddioddefodd yn erbyn Leinster ym mis Chwefror.

I brynu tocynnau cliciwch yma

Does dim newid i weddill y linell ôl o’r un a wynebodd y Dreigiau yn Stadiwm Principality penwythnos diwethaf.

Yn arwain y pac y mae’r reng flaen rhyngwladol Rob Evans, y capten Ken Owens a Samson Lee. Yn partneri yn yr ail reng y maen Lewis Rawlin a Steve Cummins gyda John Barclay yn dod yn ôl fel wythwr ochr yn ochr â Tadhg Beirne a James Davies yn y reng ôl.

Daw’r prop penrhydd Wyn Jones yn ôl i’r garfan hefyd ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr ac fe fydd ef ar y fainc.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd Wayne Pivac; “Os ydych chi’n gwylio Super Rugby mae’r Cheetahs yn chwarae gêm agored iawn, gêm ry’n ni hoffi gwylio a chwarae. Nid wyf wedi fy synnu eu bod wedi cyrraedd y rowndiau terfynol.

“Maent wedi cael tymor da ac maent yn siwr o fod yn wrthwynebwyr cryf ar y penwythnos. Fe fydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau.

“Ry’n ni’n gobeithio gweld torf dda a fydd tu ôl i’r chwaraewyr, mae’r gefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

Tîm y Scarlets i wynebu’r Toyota Cheetahs ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 5ed Mai, cic gyntaf 18:35;

15 Leigh Halfpenny, 14 Tom Prydie, 13 Scott Williams, 12 Hadleigh Parkes, 11 Steff Evans, 10 Rhys Patchell, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Lewis Rawlins, 5 Steve Cummins, 6 Tadhg Beirne, 7 James Davies, 8 John Barclay

Eilyddion; 16 Ryan Elias, 17 Wyn Jones, 18 Werner Kruger, 19 Aaron Shingler, 20 Will Boyde, 21 Jonathan Evans, 22 Dan Jones, 23 Steff Hughes

.