Prynhawn gyda Noddwyr y Chwaraewyr

Kieran Lewis Newyddion

Fe gynhaliodd y Scarlets brynhawn gyda Noddwyr Chwaraewyr 2017-18 yng Ngwesty Parc y Strade ar ddydd Mawrth 25ain Ebrill gan gymryd y cyfle i ddweud diolch i’r cymuned o noddwyr am gefnogi’r chwaraewyr trwy gydol y tymor.

Yng ngofal y prynhawn oedd Gareth Rhys Owen o’r Clwb Rygbi gyda’r gwr gwadd Phil Bennett yn llwyddo i ddiddanu’r gwesteion gyda straeon o’i ddyddiau fel chwaraewr.

Croesawyd y gwesteion cyn mwynhau pryd o fwyd blasus gan fwynhau areithiau, fideos o’r chwaraewyr sy’n ymadael a Sesiwn Holi ac Ateb gyda’r Prif Hyfforddwr Wayne Pivac a’r Capten Ken Owens.

Nawdd Chwaraewyr yw un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd i fuddsoddi yn ein rhanbarth. Mae’r gefnogaeth gan y gymuned o noddwyr chwaraewyr yn ein caniatau ni i barhau i ddatblygu talent lleol, o’r gwreiddiau cymunedol i’r llwyfan rhyngwladol.

Rhai o’r prif nodweddion:

  • Cysylltu’ch busnes chi â chwaraewyr y Scarlets
  • Eich chwaraewr noddedig i fynychu un o ddigwyddiad cwmni
  • Logo ac enw’r cwmni gyda phroffil y chwaraewr yn y rhaglen diwrnod gêm
  • Gwahoddiad i ddigwyddiad arbennig i gyfarfod eich chwaraewr

I ddysgu mwy am y pecynnau gwych hyn, ffoniwch y Tîm Masnachol ar 01554 783944 neu e-bostiwch [email protected]