Pump chwaraewr newydd i wynebu Bristol Bears

Kieran Lewis Newyddion

Mae’r Scarlets wedi enwi carfan estynedig ar gyfer gêm gynta’r tymor yn erbyn Bryste, dydd Sadwrn 18fed Awst cic gyntaf 2.30pm.

Fe fydd y Scarlets yn croesawu Bryste i Barc Caerfyrddin ar gyfer gêm gyfeillgar gyntaf 2018-19 gyda phump o’r wynebau newydd yn chwarae eu gêm cyntaf yn lliwiau’r Scarlets.

Fe fydd Clayton Blommetjies, Ed Kennedy, Kieron Fonotia, Sam Hidalgo-Clyne a Uzair Cassiem yn chwarae eu rhan yn ogystal â’r mewnwr Kieran Hardy sydd wedi dychwelyd i’r rhanbarth o Jersey.

Mewn newyddion positif arall mae’r clo Jake Ball wedi gwella o’r anaf i’w ysgwydd a ddioddefodd yn ystod Cyfres yr Hydref ac fe fydd e’n chwarae rhan yn y gêm hefyd.

Mae Wayne Pivac wedi enwi carfan estynedig gan rhoi cyfle in id yn unig i weld y chwaraewyr newydd ond hefyd i weld gwaith yr haf mewn gêm gystadleuol.

Mae’r canolwr 24 mlwydd oed Steff Hughes wedi ei enwi’n gapten ar gyfer gêm agoriadol y tymor.

Carfan Hanner Cyntaf:

15 Clayton Blommetjies, 14 Tomi Lewis, 13 Ioan Nicholas, 12 Steff Hughes ©, 11 Morgan Williams, 10 Dan Jones, 9 Kieran Hardy, 1 Dylan Evans, 2 Daf Hughes / Taylor Davies, 3 Javan Sebastian / Simon Gardiner, 4 Tom Price, 5 David Bulbring, 6 Ed Kennedy, 7 Dan Davis, 8 Josh Macleod

Carfan Ail Hanner:

15 Clayton Blommetjies, 14 Tom Prydie, 13 Kieron Fonotia, 12 Steff Hughes ©, 11 Tomi Lewis, 10 Dan Jones, 9 Sam Hidalgo-Clyne, 1 Phil Price, 2 Ryan Elias, 3 Simon Gardiner / Werner Kruger, 4 Jake Ball, 5 Steve Cummins, 6 Ed Kennedy / Josh Macleod, 7 Dan Davis / Shaun Evans, 8 Uzair Cassiem

Eilyddion;

Rhys Fawcett, Tom Phillips, Declan Smith, Corey Baldwin, Ryan Conbeer

Pris tocynnau Scarlets v Bristol Bears yw £10 i oedolion, £6 consesiwn ac am ddim i blant dan 16. Fe fyddwch chi’n gallu talu wrth gyrredd y giat.