“Roedd Connacht yn haeddu’r fuddugoliaeth,” Pivac

Menna Isaac Newyddion

Colli oedd hanes y Scarlets ym mhedwerydd rownd y Guinness PRO14 ar ôl i Connacht reoli’r gêm o’r cychwyn cyntaf.

Sgorwyd dwy gais dda gan y Scarlets, gan Johnny McNicholl a Tom Prydie, gan ddangos ychydig o sbarc y Scarlets ond roedd diffyg tiriogaeth a meddiant yn golygu ei fod yn anodd i’r Scarlets gael effaith ar y gêm.

Wrth siarad â’r wasg ar ôl y gêm dywedodd Wayne Pivac; “Ni wnaethon ni weld lot o’r bêl. Fe wnaethon nhw ddefnyddio’r bêl llawer yn well na ni.

“Mae’n rhaid i ni edrych ar ôl y bêl yn well na wnaethon ni heddiw. Mae diffyg blaenasgellwr agored yn effeithio ni ar hyn o bryd; mae hwn yn un o’n cryfderau ni, arafu’r bêl a throi’r bêl drosodd. Doedden ni ddim yn gallu gwneud hynny heddiw.

“Dy’n ni ddim yn chwarae’n rygbi gorau. Ry’n ni eisiau chwarae llawer yn well na wnaethon ni heddiw.”

Aeth ymlaen i ddweud; “Does dim esgusodion. Roedd Connacht yn well na ni heddiw a weithiau mae’n rhaid dweud da iawn i’r gwrthwynebwyr.

Roedd Connacht yn llawn haeddu’r fuddugoliaeth ac ry’n ni’n siomedig iawn na wnaethon ni lwyddo i gael unrhyw bwyntiau.”