“Roedden ni eisiau gwneud ein marc,” medd Pivac

Menna Isaac Newyddion

Wrth ddychwelyd i Barc y Scarlets ar ôl y siom o golli i Connacht penwythnos diwethaf fe lwyddodd y Scarlets i ddangos y rygbi ymosodol a chyffrous y maent yn adnabyddus amdano wrth iddynt sgori wyth cais yn y fuddugoliaeth dros y Southern Kings.

Fe wnaeth y prif hyfforddwr Wayne PIvac lot o newidiadau i’r tîm gan ddewis gorffwys nifer o’r chwaraewyr rhyngwladol cyn cyfnod prysur gyda gemau yn erbyn y Gweilch a dwy gêm Cwpan Pencampwyr Heineken ar y gorwel.

Ni wnaeth y newidiadau effeithio fodd bynnag gyda’r tîm yn rhedeg wyth cais i mewn yn hamddenol gan sicrhau buddugoliaeth o 54-14 dros y Kings.

Wrth siarad ar ôl y gêm dywedodd Pivac; “Roedden ni eisiau sicrhau perffomriad 80-munud ar ôl siom penwythnos diwethaf.

“Fe wnaethon ni son yn yr wythnos am y dechrau ry’n ni wedi ei gael i’r tymor. Roedden ni’n teimlo ein bod ni wedi cael perfformiad da yn erbyn Leinster ac wedi methu tanio yn y gemau eraill. Roedden ni eisiau gwneud ein marc ac roeddwn i’n bles ein bod ni wedi gallu gwneud hynny er yr holl newidiadau.

“Roedd yna berfformiadau da gan nifer o chwaraewyr sydd heb chwarae lot o rygbi ar y lefel yma eto y tymor hwn. Roeddwn i’n bles iawn dros y chwaraewyr hynny. Fe wnaeth y bois argraff oddi ar y fainc hefyd.”

Roedd y fuddugoliaeth hefyd yn sicrhau bod y Scarlets yn cadw’r record cartref yn fyw, aeth Pivac ymlaen i ddweud; “Me’r bois yn ymwybodol ohono fe ond dy’n ni ddim yn siarad amdano fe lot yn ystod yr wythnos. Ry’n ni eisiau cadw gwella fel grwp ac roedd y perfformiad yma’n gam i’r cyfeiriad cywir.

“Ar ddiwedd y dydd ry’n ni eisiau ennill ac roedd yn braf cael bach o fomentwm yn ôl heno.”

Fe fydd y Scarlets yn croesawu’r Gweilch i Barc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 6ed Hydref, cic gyntaf 15:00.

Mae tocynnau ar gael nawr o tickets.scarlets.wales