“Rwy’n mwynhau pob eiliad,” medd Prydie

Kieran Lewis Newyddion

Roedd yr asgellwr Tom Prydie yn un o un-deg-tri Scarlet a enwyd yng ngharfan Warren Gatland ar gyfer taith yr haf i’r Americas yn gynharach yr wythnos hon, pump mlynedd ar ô lei ymddangosiad rhyngwladol diwethaf.

Dychwelydd yr asgellwr 26 mlwydd oed i ffitrwydd ar gyfer rownd go gyn derfynol y Scarlets yn erbyn Cheetahs, ar ôl dioddef anaf i’w bigwrn yn erbyn Leinster ym mis Chwefror, ac fe sgoriodd ei bedwerydd cais o’r tymor i gynorthwyo’r Scarlets i fuddugoliaeth.

Roedd disgwyl i’r anaf ddod a’i dymor cyntaf gyda’r Scarlets i ben yn gynnar ond fe lwyddodd yr asgellwr o Benybont i ddychwelyd i ffitrwydd mewn pryd ar gyfer y gemau ail gyfle.

Wrth edrych ymlaen at y gêm gyn derfynol dywedodd Prydie; “Roedd yn ras i ddod yn ôl. Mae lot o waith caled wedi ei wneud gan y tîm meddygol i gael fi’n ôl ar y cae yn gynt na’r disgwyl.

“Ry’n ni’n gwybod bod Glasgow yn dîm da, yn enwedig adref. Mae ganddynt olwyr da iawn. Fe fydd yn her i ni ond ry’n ni’n edrych ymlaen ato ond yn gwybod hefyd y bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau.”

Wrth adlewyrchu ar yr alwad i garfan Cymru dywedodd; “mae’n rhaid rhoi clod i’r hyfforddwyr a’r amgylchedd yr wyf yn gweithio ynddo bob dydd fan hyn. Rwy’n dysgu oddi ar chwaraewyr a hyfforddwyr talentog iawn . Mae wedi bod yn ddechrau newydd i fi ac rwy’n mwynhau pob eiliad.

“Mae’n mynd i fod yn her mawr i fi ond rwy’n edrych ymlaen. Mae sawl blwyddyn wedi bod ers i fi fod yn rhan o ymgyrch ond rwy’n edrych ymlaen. Mae’n anrhydedd ac yn hwb i’r hyder hefyd.”

Glasgow v Scarlets, rownd gyn derfynol Guinness PRO14, Gwener 18fed Mai yn Stadiwm Scotstoun, cic gyntaf 19:45