“Ry’n ni’n barod am yr ornest,” medd Evans

Kieran Lewis Newyddion

Mae’r Scarlets yn dychwelyd i Stadiwm Aviva penwythnos yma ar gyfer rownd derfynol Guinness PRO14, wythnosau ar ôl siom y golled i Leinster yn rownd gyn derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Dywed yr asgellwr Steff Evans ei fod ef a’r tîm Yn motivated i wneud yn iawn am y camgymeriadau y prynhawn hwnnw yn erbyn Leinster yn y gystadleuaeth Ewropeaidd.

Mae’r Scarlets fodd bynnag yn gallu cymryd hyder o’u hymweliad diwethaf â’r Aviva yn y Guinness PRO14 pan gododd y rhanbarth tlws Guinness PRO12 flwyddyn yn ôl.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd Evans; “Ry’n ni;n hapus iawn ein bod ni’n y ffeinal eto. Mae siom y gêm diwethaf yma yn ddigon o motivation ac ry’n ni’n edrych ymlaen at yr ornest a’r her sydd o’n blaenau.”

“Fe ddaethon ni o’r gêm yna’n teimlo’n bod ni’n ôl i fod yn dîm canolig. Ni wnaethon ni lwyddo rhoi pwysau arnyn nhw o gwbwl. Roedden ni’n siomedig iawn ond ers hynny ry’n ni’n symud yn ôl at lle’r oedden.

“Fe wnaethon ni sgori ceisiau da yn erbyn Glasgow yn y rownd gyn derfynol penwythnos diwethaf. Mae’r gred yna. Ry’n ni’n canolbwyntio ar yr hyn ry’n ni’n gallu ei wneud.

“I fi’n bersonol mae’n motivation if od yn ôl yno a gwneud yn iawn am Ewrop. Mae angen i ni fynd allan yno a dangos yn union beth ry’n ni’n gallu ei wneud. Maen nhw wedi datblygu llawer ers rownd cyn derfynol tymor diwethaf.

“Maent yn dîm corfforol. Mae angen i ni fod yr un mor gorfforol a bod yn geffyl blaen o’r dechrau. Does dim lot o dimau’n gallu aros gyda ni os gewn ni bêl cyflym. Yn syml iawn mae’n rhaid i ni fod yn well na nhw.”

Leinster v Scarlets, rownd derfynol Guinness PRO14, Stadiwm Aviva Sadwrn 26ain Mai, cic gyntaf 18:00. Yn fyw ar Sky Sports a S4C.

Fe fydd y gêm i’w gweld yn fyw ym Mar Calon ac Enaid Parc y Scarlets, ar agor o 17:00.