SCARLET IFANC YN GOBEITHIO AM DDIWEDDGLO POSITIF

Natalie Jones

Fe fydd tîm Dethol y Scarlets yn croesawu Ulster A i Fanc yr Eglwys, Llanymddyfri, prynhawn Sadwrn yng ngêm grwp olaf ymgyrch Cwpan Prydain a Gwyddelig.

Fe fydd tîm ifanc y rhanbarth yn wynebu Ulster A yn y gêm olaf gan obeithio sicrhau canlyniad llwyddiannus ar ôl y siom o golli i Hartpury tymor diwethaf.

Fe fydd y gêm yn cael ei chwarae yn Llanymddyfri, cic gyntaf 2YP, cyn gêm Ewropeaidd y Scarlets ym Mharc y Scarlets.

Mae Ulster A ar frig grwp 5 gyda’r Scarlets yn drydydd yn y tabl. Fe fydd y Cornish Pirates yn wynebu Hartpury.

Tîm Dethol y Scarlets i wynebu Ulster A;

15 Tom Rogers, 14 Morgan Griffiths, 13 Corey Baldwin, 12 Rhodri Jones, 11 Ryan Conbeer, 10 Jacob Botica, 9 Jonathan Evans, 1 Dylan Evans, 2 Emyr Phillips, 3 Javan Sebastian, 4 Josh Helps, 5 Chris Long, 6 Lewis Elis-Jones, 7 Stuart Worrall, 8 Jack Condy ©